British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Medi 2010, 08:03 GMT 09:03 UK
Chwilio am darddiad Clefyd y Llengfilwyr

Bacteria Legionella

Mae swyddogion iechyd yn ceisio dod o hyd i darddiad achosion Clefyd y Llengfilwyr allai fod yn gysylltiedig â marwolaeth menyw 64 oed.

Dywedodd swyddogion iechyd fod 12 o bobl yn cael triniaeth oherwydd y clefyd.

Mae'r awdurdodau yn parhau i ymchwilio i ddau achos posib arall, gan gynnwys menyw 64 oed fu farw yn yr ysbyty ar Fedi 6.

Dywedodd swyddogion iechyd fod yr achosion yn ardal Blaenau'r Cymoedd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a saith awdurdod lleol yn ymchwilio.

Un tarddiad posib, meddai swyddogion, yw systemau tymheru mawr neu dyrau oeri ar safleoedd diwydiannol.

Meddygon teulu

Eisoes fe gafodd meddygon teulu wybodaeth am y canllawiau os bydd claf yn dangos symptomau'r haint.

Dywedodd Dr Jonathan Richards o Ferthyr Tudful ei bod hi'n bwysig gwybod beth oedd yr union gysylltiad rhwng y 12 achos.

"Os ydi'r bobl wedi ymweld ag un ganolfan hamdden neu un gwesty lle mae dŵr wedi'i heintio mae angen gwybod," meddai.

Ond roedd Dr Richards yn cydnabod fod angen llawer o ymchwil er mwyn canfod y tarddiad.

Ffliw

"Allwn ni ddim dweud yn bendant fod y ddau achos arall yn gysylltiedig," meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru, "ond rydym yn parhau i ymchwilio."

Mae symptomau'r clefyd ar dechrau'n debyg i rai ffliw.

Does dim modd trosglwyddo'r clefyd o berson i berson, ond mae'r haint yn taro pobl mewn oed yn galetach.

Dylai unrhyw un sy'n poeni fynd at feddyg teulu.



HEFYD
Ymchwilio i Glefyd y Llengfilwyr
07 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific