British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Medi 2010, 15:39 GMT 16:39 UK
Ymchwilio i Glefyd y Llengfilwyr

Clefyd y Llengfilwyr
Dylai unrhywun sy'n poeni gysylltu 'r meddyg teulu

Mae'r awdurdodau'n ymchwilio i gyfres o achosion Clefyd y Llengfilwyr sy wedi effeithio ar 11 o oedolion yn ardal Blaenau'r Cymoedd.

Mae'n bosib bod y clefyd wedi effeithio ar dri arall, gan gynnwys menyw 64 oed fu farw mewn ysbyty yn y de ddydd Llun.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n ymchwilio, eu bod yn cydweithio ag awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dylai unrhywun sy'n poeni gysylltu â'r meddyg teulu.

Mae swyddogion iechyd amgylchedd yr awdurdodau canlynol yn ymchwilio: Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.

'Yn brin'

Dywedodd y Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r clefyd yn brin ond yn peryglu bywyd.

"Fel arfer, mae'r achosion yn ynysig ond mae cyfres o achosion yn gallu digwydd.

"Mae pobol yn cael eu heintio wrth anadlu bacteria sy ar ffurf diferion o ffynhonell dŵr wedi ei heintio."

Yn aml, mae systemau awyru yn lledu'r clefyd.

Gallai'r claf gael symptomau yn debyg i ffliw, gan ddatblygu problemau anadlu.

Dydi hi ddim yn bosib i'r clefyd gael ei ledu o berson i berson.

Dywedodd y Tîm Rheoli Cyfres o Achosion, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro, eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa.



HEFYD
Claf yn 'ddifrifol iawn'
26 Meh 10 |  Newyddion
Achos o glefyd y llengfilwyr
25 Meh 10 |  Newyddion
Diheintio: Pwll nofio'n agor
27 Ion 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific