British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Medi 2010, 13:42 GMT 14:42 UK
Cymru i golli mwy na 25% o ASau?

Ty'r Cyffredin
Aelodau Seneddol yn dechrau trafod y mesur brynhawn Llun

Gallai Cymru golli mwy na chwarter Aelodau Seneddol o dan gynllun y mae'r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi ei gyhoeddi.

Mae map gwleidyddol newydd gomisiynwyd gan y mudiad yn awgrymu y dylai'r nifer gael ei chwtogi o 40 i 29.

Daw'r cyhoeddiad wrth i San Steffan ddechrau trafod cynlluniau i ail-wampio'r system bleidleisio gan greu etholaethau mwy cyfartal o ran maint.

Dywedodd Keith Best o'r mudiad fod y map yn dangos "bod modd cyfartaleiddio etholaethau yn deg."

Ymchwil

Cynhaliwyd yr ymchwil gan gwmni arbenigol CACI sy'n seilio'u hadroddiad ar nifer bosib etholwyr yn 2015 yn lle'r nifer bresennol.

O dan y cynllun fe fyddai Cymru yn colli 11 etholaeth - a phob un o'r etholaethau presennol yn newid.

Nod yr ymchwil oedd creu etholaethau newydd o fewn ffiniau Prydeinig ac o fewn ffiniau awdurdodau lleol pan oedd hynny'n bosib.

Trafod

Wardiau cyngor oedd sail llawer o'r cyfuniadau etholaethol newydd, gan gynnwys Aberystwyth ac Aberteifi, Bangor a Chaergybi, a'r Drenewydd ac Ystradgynlais/Ystalyfera.

Bydd Aelodau Seneddol yn dechrau trafod y Mesur System Bleidleisio ac Etholaethau brynhawn Llun.

Ond mae'r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi dadlau na all y mesur yn ei ffurf bresennol "greu etholaethau tecach a mwy cyfartal".

Dywedodd Mr Best: "Mae'r penderfyniad i ddefnyddio nifer y pleidleiswyr yn lle nifer oedolion yn fwy tebyg o greu etholaethau lle mae dinasyddion anweledig."



HEFYD
Trafod effaith newid etholaethau
09 Meh 10 |  Newyddion
Llai o aelodau seneddol i Gymru?
19 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific