Cafodd gwasanaeth ar gyfer plant oedran meithrin ei lansio yn 2008
|
Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod am ehangu eu gwasanaeth i blant oed meithrin. Ar hyn o bryd mae gwasanaeth Cyw, a lansiwyd ym mis Mehefin 2008, i'w weld o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7am-1.30pm. Ond fe fydd, o ddydd Sadwrn Hydref 23, ar gael ar benwythnosau hefyd. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd fore Llun. 'Gwreiddiol ac uchelgeisiol' Yn ôl Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson: "Mae'r penderfyniad i ehangu gwasanaeth Cyw i'r penwythnosau yn adlewyrchu ymrwymiad clir S4C i ddarparu rhaglenni gwreiddiol ac uchelgeisiol i blant ifanc a'u teuluoedd.
 |
Mae sicrhau gwasanaeth deledu o'r ansawdd gorau i'r grŵp targed hwn yn hollbwysig i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg a chodi statws yr iaith
Meirion Prys Jones Prif Weithredwr Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
|
"Ers i S4C lansio Cyw yn 2008, mae'r gwasanaeth wedi derbyn croeso cynnes iawn gan rieni a phlant yng Nghymru a thu hwnt. "Mae'r arlwy hefyd yn ffynhonnell addysgiadol i rieni di-Gymraeg, dysgwyr a'r teulu cyfan i'w hysgogi i ddefnyddio'r iaith Gymraeg tu hwnt i furiau'r ysgol. "Mae S4C yn buddsoddi'n drwm ym maes darlledu plant ac mae safon y rhaglenni yn atgyfnerthu'r enw da sydd gan y Sianel a'r cynhyrchwyr annibynnol sy'n eu cynhyrchu." 'Hollbwysig' Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd wedi canmol ymrwymiad S4C i ddarlledu rhaglenni plant. Dywed Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr y Bwrdd: "Rydym yn falch i weld S4C yn ymestyn ei raglenni ar gyfer plant a theuluoedd ifanc. "Mae sicrhau gwasanaeth deledu o'r ansawdd gorau i'r grŵp targed hwn yn hollbwysig i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg a chodi statws yr iaith." Bydd Clwb Cyw, fydd ar S4C rhwng 07:00 a 09:00 ar foreau Sadwrn a Sul yn teithio i ysgolion a meithrinfeydd.
|