British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Medi 2010, 12:54 GMT 13:54 UK
Heddlu'n chwilio am ddau

Gareth Williams
Llun camera cylch cyfyng: Gareth Williams

Mae'r heddlu'n ceisio olrhain dyn a menyw o dras gwledydd Môr y Canoldir aeth i mewn i'r adeilad lle roedd gweithiwr MI6 yn byw yn Llundain un noson ym mis Mehefin neu Orffennaf.

Cyhoeddwyd nad oedd unrhyw arwydd o alcohol na chyffuriau yng nghorff Gareth Williams, y dyn 31 oed o Ynys Môn oedd yn gweithio i MI6.

Dywedodd yr heddlu nad oedd dillad ar ei gorff oedd mewn bag chwaraeon wedi ei gloi mewn bath yn ei fflat yn Pimlico.

Fe gafwyd hyd i'w gorff ar Awst 23.

Mae'r heddlu, sy'n dweud bod y farwolaeth yn "anesboniadwy," wedi cyhoeddi lluniau camera cylch cyfyng o'r Cymro ychydig cyn ei farwolaeth.

'Cymhleth'

"Dydyn ni ddim yn credu bod eitemau wedi eu dwyn o'r fflat ac nad oedd neb wedi torri i mewn," meddai llefarydd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jacqueline Sebire: "Mae'r ymchwiliad hwn yn gymhleth.

"Fe ddylai unrhyw un welodd Gareth rhwng Awst 11 ac Awst 23 gysylltu â ni."

Mae ditectifs wedi rhyddhau lluniau camera cylch cyfyng o'r Cymro'n mynd i mewn i orsaf trenau tanddaearol Holland Park am 3pm ar Awst 14.

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi dod yn ôl o'i wyliau yn yr Unol Daleithiau ar Awst 11 a'i fod wedi siopa "sawl gwaith" yn y West End a Knightsbridge.

GCHQ

Fe aeth i siop Harrods ar Awst 15 ac am 2.30pm y diwrnod hwnnw roedd camera cylch cyfyng yn dangos ei fod yn cerdded i gyfeiriad Sloane Street.

Roedd wedi bod yn swyddog cyfathrebu yng Nganolfan Glustfeinio GCHQ ond ar ymlyniad i wasanaeth cudd MI6 ers blwyddyn yn Llundain.

Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i GCHQ yn Cheltenham ym mis Medi.

Y gred yw bod cysylltiad rhwng ei fywyd personol a'i farwolaeth.



HEFYD
Mwy o brofion ar gorff gweithiwr MI6
26 Awst 10 |  Newyddion
MI6: Mwy o deyrngedau i'r Cymro
26 Awst 10 |  Newyddion
Ymchwilio i lofruddiaeth aelod MI6
25 Awst 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific