British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Medi 2010, 06:58 GMT 07:58 UK
Lansio cronfa apÍl Tŷ Newydd

Canolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy
Mae tocynnau ar gyfer sesiynnauír Sadwrn aír Sul ar gael wrth y drws

Cafodd cronfa apêl ei lansio ar gychwyn dathliadau pen-blwydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, yn 21 oed dros y Sul.

Mae staff ac ymddiriedolwyr y ganolfan yn Llanystumdwy ger Cricieth yn bwriadu codi £21,000 yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau dyfodol y lle.

Mae'r ganolfan yn cynnig cyrsiau datblygu sgiliau i awduron, beridd, a dramodwyr , ynghyd â chyrsiau i ysgolion.

Tŷ Newydd oedd cartref olaf David Lloyd George.

Byddai'r arian yn cael ei wario ar greu a datblygu cyrsiau newydd trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

'Arian yn brin'

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol y Ganolfan, Sally Baker: "Roeddym yn hynod falch o gael sicrwydd ariannol gan Gyngor y Celfyddydau ddechrau'r haf ond rydym hefyd yn sylweddoli ein bod yn wynebu cyfnod pan fydd arian yn brin.

"Fe fydd yr apêl yma yn sicrhau ein bod yn gallu adeiladu ar y sylfaen gadarn sydd wedi ei osod yma yn ystod yr un mlynedd ar hugain diwethaf - ac rydym yn sicr yn bwriadu cael llawer o hwyl yn codi'r arian."

Cychwynodd y dathliadau gyda chyflwyniad gan Lywydd y Ganolfan a Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke ar y cyd â'r beirdd Carol Ann Duffy a Mererid Hopwood.

Roedd y beirdd Menna Elfyn a Mazhar Tirmazi o Bacistan yn darllen a thrafod eu gwaith ac fe wnaeth Karen Owen holi 5 bardd am yr hyn sydd wedi eu hysbrydoli i sgrifennu mewn cynghanedd.



HEFYD
Ty Newydd yn penodi Prifardd
16 Ion 06 |  Newyddion
Tż Newydd: 'Llafur ar fai'
19 Ion 04 |  Newyddion
Pryder am ganolfan awduron
17 Ion 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific