Mr Bryant: "Rhyfeddol nad oedd yr heddlu yn meddwl ei fod yn werth rhoi gwybod i mi"
|
Mae aelod seneddol y Rhondda Chris Bryant yn dweud ei fod yn credu bod newyddiadurwyr o'r News of The World wedi bod yn gwrando ar ei ffôn. Daw hyn ar ôl i'r papur wahardd newyddiadurwr o'i swydd, yn dilyn honiadau ei fod wedi clustfeinio ar alwadau ffôn ffigwr cyhoeddus. Ac mae'r cyn Ddirprwy Brif Weinidog - John Prescott - yn dweud y bydd yn galw am adolygiad barnwrol oni bai bod Heddlu Llundain yn dweud ai ei ffôn ef oedd yr un dan sylw. Mae'r pwysau'n cynyddu ar gyn-olygydd y papur, Andy Coulson, dros yr honiadau. Mae Mr Coulson, sydd bellach yn bennaeth cyfathrebu i David Cameron, yn gwadu gwybod unrhyw beth am weithgareddau anghyfreithlon gan ei ohebwyr, er i un honni ddydd Gwener iddo gael ei orchymyn gan ei bennaeth i wrando ar alwadau ffôn. Dywedodd yr ysgrifennydd cartref y gallai edrych eto ar y modd yr ymchwiliodd yr heddlu i'r honiadau gwreiddiol. Dywedodd Mr Bryant ei fod wedi gofyn "rhag ofn" i heddlu Llundain a oedd rhywun wedi clustfeinio ar ei alwadau ffôn, ac wedi cael gwybod bod hynny wedi digwydd yn 2003. Yn ôl Mr Bryant: "Yr hyn sy'n rhyfeddol yw nad oedd yr heddlu yn meddwl ei fod yn werth rhoi gwybod i mi. "Dydyn nhw ddim ychwaith, hyd y gwn i, wedi rhoi gwybod i lawer, os unrhyw un, o'r miloedd o bobl eraill sydd wedi cael eu targedu."
|