British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Medi 2010, 11:49 GMT 12:49 UK
'Rhagair refferendwm yn sarhad' medd y llywydd

Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r rhagarweiniad i'r cwestiwn fydd ar y papur pleidleisio yn y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol yn sarhad ar etholwyr yn ôl Llywydd y Cynulliad.

Dywedodd Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas ei fod yn croesawu adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn drafft oedd yn dweud fod y geirio yn anodd i'w ddeall.

Ond roedd yn feirniadol o'r angen am gynnwys "rhyw fath o ddoethuriaeth ar y cyfansoddiad Prydeinig".

"Dylai'r rhagarweiniad yn fy marn i ddim ymddangos ar y papur pleidleisio," meddai.

Rhagarweiniad

Datgelwyd ddydd Iau y byddai'r papur pleidleisio yn dechrau gyda rhagarweiniad yn egluro sefyllfa datganoli yng Nghymru cyn gofyn cwestiwn y refferendwm ei hun.

Wrth geisio barn y cyhoedd ar hyn, daeth y comisiwn i'r canlyniad fod llawer yn methu deall y cwestiwn, ac nad oeddent yn sicr am beth yr oedd disgwyl iddyn nhw bleidleisio.

Ychwanegodd y llywydd fod hwn yn dangos gwerth cael corff sy'n arbenigo mewn gwneud i ddemocratiaeth weithio, a mynnodd nad oedd mater canolog y refferendwm yn un cymhleth.

"Y cwestiwn yw," meddai, "a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael yr hawl i ddeddfu mewn meysydd lle mae ganddo eisoes gyfrifoldeb, a gwneud hynny heb ymgynghori â senedd San Steffan.

"Dyw hynny ddim yn gymhleth yn fy marn i, a phetai'r cwestiwn yn cael ei ofyn yn y modd amlwg yna dwi'n credu bod modd ei ateb un ffordd neu'r llall.

"Bu llawer gormod o bwyslais mewn ysgrifennu rhyw fath o ddoethuriaeth ar y cyfansoddiad Prydeinig fel rhan o'r cwestiwn yn hytrach na gwneud y cwestiwn yn glir a dealladwy."



HEFYD
'Angen ail-ddrafftio cwestiwn'
02 Medi 10 |  Newyddion
Refferendwm yn hydref 2011?
13 Meh 10 |  Newyddion
Refferendwm y flwyddyn nesaf
09 Meh 10 |  Newyddion
Refferendwm: Cwestiwn brys
26 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific