Mae'r Grofna Loteri Fawr i fuddsoddi £25 miliwn mewn prosiectau sy'n helpu pobl hŷn fynd i'r afael ag unigrwydd a diweithdra yng Nghymru. Caiff yr arian ei ddosrannu mewn dwy raglen dros y 12 mis nesaf. Bydd rhaglen Llawn Bywyd, sy'n derbyn £20 miliwn, yn ceisio lleihau unigedd cymdeithasol. Mae cynllun arall, Sgiliau Bywyd, i dderbyn £4.3 milwin gyda'r nod o helpu pobl dros 50 oed i ddychwelyd i waith. Dywedodd Victoria Lloyd o Age Cymru, fod y newyddion yn hwb gwych i wasanaethau lleol. "Mae ein poblogaeth yn golygu y bydd anghenion pobl hŷn yn gynyddol amlwg dros y blynyddoedd i ddod." Pennod cyffrous Cafodd y rhaglen Llawn Bywyd ei lansio gan yr actores Margaret John o'r gyfres Gavin and Stacey. Yn ôl Fran Targett, Cadeirydd pwyllgor Llawn Bywyd, mae gan Gymru ganran uwch o bobl dros 50 oed nag unrhyw wlad arall yn y DU. "Mae llawer o bobl hŷn yn ystyried bod mynd yn hŷn yn gyfle ac yn bennod newydd a chyffrous yn eu bywydau. "I rai eraill fodd bynnag, mae henoed yn dod â heriau a all fod yn anodd ac arwain at unigedd cymdeithasol ac unigrwydd heb gefnogaeth. " Bydd y rhaglen Llawn Bywyd yn dosrannu grantiau rhwng £200,000 ac £1 miliwn i sefydliadau gwirfoddol.
|