Noel Ball gyda medal y Legion d'honneur
|
Mae cyn filwr o'r ail rhyfel byd wedi cael ei anrhydeddu gan Ffrainc am ei ddewrder. Cafodd Noel Ball, 87 o Ynysybwl, Rhondda Cynon Taf, ei wobrwyo gyda medal y Legion D'Honneur am gynorthwyo i ryddhau pentre Le Muy ger Nice yn 1944. Dyw'r dre erioed wedi anghofio aelodau o Gatrawd Parasiwt y Pathfinders ddaeth i'w gwaredu o'r Almaenwyr. Teithiodd Mr Ball i Ffrainc i dderbyn yr anrhydedd. Roedd yn 21 oed pan gafodd ei gatrawd eu gyrru i gynorthwyo'r Americanwyr i gael gwared o'r Almaenwyr o dde Ffrainc yn Awst 1944. Dywedodd: "Doedd yr Americanwyr yn methu glanio, ac fe ddisgynnodd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau'r Paras. "Roedd y 6ed bataliwn yn Gymry i gyd, ac fe gawson ni'n gyrru i'r pentre bach yma oedd â gwarchodlu o Almaenwyr yno - dwywaith cymaint ag oedd ohonom ni. "Aetho ni mewn ar barasiwt ym mherfedd y nos, ac erbyn diwedd y prynhawn roedden ni wedi dinistrio'r gwarchodlu a chipio'r rhai oedd yn dal yn fyw - 700 ohonyn nhw." Angerdd
Noel a'i frawd Howard yn ystod eu cyfnod gyda'r Gatrawd Parasiwt
|
Bu Mr Ball yn ôl yn Le Muy sawl gwaith ers hynny. Mae'n dweud fod pobl yn dal i ddathlu'r digwyddiad gyda diolchgarwch ac angerdd. Eisoes mae Mr Ball wedi ennill medalau am ei wasanaeth i'r fyddin yn Affrica, Yr Eidal, Ffrainc, Groeg a'r Almaen ynghŷd â Seren 1939-45, y fedal Amddiffyn, medal Llydaw a'r fedal Gwasanaeth Cyffredinol. Ond o'r cyfan, dywed mai'r Legion D'Honneur sy'n golygu fwya iddo. "Byddai byddin Prydain ddim am i mi ddweud hyn," meddai, "ond mae'r fedal yma am ddewrder, a dyna sy'n fwya pwysig. "Roedd bob aelod o'r Frigad Parasiwt yn arwyr, nid dim ond fi." Sefydlwyd medal y Legion D'Honneur gan brif gonswl Ffrainc yn 1802 - Napoleon Bonaparte.
|