British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Medi 2010, 05:29 GMT 06:29 UK
Ple ddigidol i Gymry Cymraeg

Cyfrifiadur
Annog Cymry Cymraeg i ddefnyddio'r we

Mae Cymry Cymraeg a dysgwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r iaith ar y we ddydd Gwener fel rhan o ymgyrch i greu "diwylliant Cymraeg digidol'.

Yn ôl y rhai tu cefn i fenter, pethaubychain.com, mae angen creu diwylliant ar-lein Cymraeg.

Maen nhw'n annog pobl i fynd ati i greu fideo, podlediadau, i flogio neu sgwennu e-farddonaieth.

Yn ôl Rhodri ap Dyfrig, o Aberystwyth, un o'r bobl tu ôl i'r prosiect, mae angen llusgo'r Gymraeg i'r byd digidol.

"Rydyn ni'n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg.

"Mae'r we yn gyfle i ni ffurfio ein sianeli, ein gorsafoedd a'n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni," meddai.

"Os ydyn ni am i'r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhaid i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol hefyd.

"Mae'n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio ac mae'r un peth yn wir am y we."

Cafodd y fenter ei chroesawu gan Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Mae'r fenter hon yn wirioneddol fendigedig.

"Mae'n hynod o bwysig bod y Gymraeg yn ffynnu ar y we, ac ym mhob rhan o'n bywydau pob dydd."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific