British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Medi 2010, 19:10 GMT 20:10 UK
'Angen sicrhau diogelwch giatiau trydanol'

Karolina Golabek
bu farw Karolina Golabek ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn chwech oed

Mae cwmnïau sy'n dylunio, gosod neu gynnal a chadw giatiau trydanol yn cael eu hannog i wneud mwy i sicrhau eu diogelwch.

Daw'r alwad oddi wrth y Gweithgor Iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth dau o blant.

Ar ddechrau mis Gorffennaf bu farw Karolina Golabek ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn chwech oed ar ôl i giât drydanol gau arni ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ychydig ddyddiau cyn hynny bu farw merch chwech oed ar ôl cael ei gwasgu gan giât tebyg ym Manceinion.

Roedd Semelia Campbell yn chwarae â ffrind pan gaeodd y giât arni.

Ddydd Iau dywedodd un o gyfarwyddwyr y gweithgor iechyd a diogelwch, David Ashton: "Rhaid sicrhau bod dyfeisiadau sy'n rhwystro pobol rhag cael eu dal yn y giatiau yn cael eu gosod ac yn cael eu cynnal.

"Os yw'r cyhoedd yn medru cael mynediad at y giatiau, yna mae angen mesurau diogelwch uwch, er enghraifft lleihau eu nerth neu osod offer ychwanegol".

Mae'r heddlu a'r gweithgor yn parhau i ymchwilio i'r ddwy farwolaeth.



HEFYD
Cwest merch laddwyd gan git
13 Gorff 10 |  Newyddion
Teyrnged teulu i ferch
05 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific