Y bwriad: Cynnal y refferendwm ddiwedd mis Mawrth 2011
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi codi nifer o broblemau sylfaenol ynglŷn â geiriad cwestiwn refferendwm mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Wedi ymgynghoriad cyhoeddus am 10 wythnos, mae'r comisiwn wedi rhybuddio fod y cwestiwn a gynigiwyd gan Swyddfa Cymru'n "aneglur, yn anodd ei ddeall ac yn cynnwys diffiniadau amwys a dryslyd".
Maen nhw'n dweud fod angen ail-ddrafftio'r cwestiwn yn llwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ei bod yn croesawu'r adroddiad.
"Rydw i'n ddiolchgar i'r comisiwn am gyhoeddi'r adroddiad heddiw a'u sylwadau am ba mor eglur yw cwestiwn y refferendwm a'r rhagarweiniad iddo.
Y llywodraeth sy'n penderfynu yn y diwedd ond mae'n anodd credu y byddan nhw'n mynd yn erbyn barn y comisiwn
Y Dr Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru
"Mae'n adroddiad trylwyr ac yn rhan bwysig o'r broses o sicrhau fod pobl yn deall beth y maen nhw'n bleidleisio drosto.
"Byddaf yn trafod y mater â Phrif Weinidog Cymru ddydd Llun nesa, ac yn gweithio gydag e i ystyried awgrymiadau'r comisiwn am y ffordd orau ymlaen i sicrhau bod y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yn glir a chryno.
"Bydd hyn yn caniatáu ini gynnal y refferendwm ddiwedd mis Mawrth 2011 yn ôl y bwriad."
Anodd
Roedd arolwg y comisiwn yn dangos bod dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion sy'n rhan o'r refferendwm yn isel ac mae'r adroddiad wedi nodi bwriad i ddarparu taflen wybodaeth i bob cartref yng Nghymru ar ddechrau'r ymgyrch.
Mae'r adroddiad wedi rhybuddio hefyd y gallai'r ymgyrchoedd Ie neu Na fod yn gamarweiniol i bleidleiswyr ynglŷn â thestun y refferendwm.
Dywedodd y Dr Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod llunio'r cwestiwn yn dasg anodd.
"Y llywodraeth sy'n penderfynu yn y diwedd ond mae'n anodd credu y byddan nhw'n mynd yn erbyn barn y comisiwn.
"Be' 'dach chi'n trio cydbwyso yw bod yn gywir yn gyfansoddiadol, sy'n gallu bod yn sobr o ddiflas, a bod yn ddealladwy.
"Ond mae 'gostwng y lefel,' fel petai, yn ormodol yn gallu bod yn rhy simplistig neu'n gallu camarwain."
Roedd dau academydd wedi rhybuddio y gallai canlyniad y refferendwm fod yn anghyfreithlon os nad oedd y cwestiwn yn cyfeirio'n benodol at Rhan 4 Atodiad 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ond barn y comisiwn oedd nad oedd rhaid i'r cwestiwn gyfeirio'n benodol at y ddeddf am na fyddai hynny yn ddealladwy i bleidleiswyr.
Doedd y comisiwn ddim yn teimlo y byddai hepgor y cyfeiriad yn y ddeddf yn arwain at her lwyddiannus.
Argymell
Mae'r comisiwn wedi argymell y geiriad isod ar gyfer y cwestiwn:
"Mae gan y cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis amaethyddiaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, tai, llywodraeth leol.
"Mae'r cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill.
"Er mwyn llunio deddfau ar unrhywun o'r materion eraill hyn, mae'n rhaid i'r cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU.
"Yna mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio. Ni all y cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.
'Ydw'
"Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'Ydw,' bydd y cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddyn nhw heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.
"Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'Nac ydw,' bydd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.
"A ydych yn dymuno i'r cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?"
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.