British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Medi 2010, 14:35 GMT 15:35 UK
Dirwy o £20,000 i gwmni adeiladu

Sgaffaldiau lle digwyddodd y ddamwain
Mwy na 4,000 wedi eu hanafu wrth ddisgyn o uchder yn 2008-09

Mae cwmni adeiladu wedi cael dirwy o £20,000 wedi i weithiwr ddisgyn bron 30 troedfedd o sgaffaldiau yn Llanfairfechan ger Bangor a chael anafiadau difrifol.

Plediodd JBB Homes o Stockport - sydd wedi mynd yn fethdalwyr - yn euog i dorri adran 2(1) o'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch.

Cafodd orchymyn i dalu costau o £10,835.

Ymchwiliad

Cyfaddefodd cyfarwyddwr y cwmni, James Burt, iddo dorri adran 37(1) o'r un ddeddf a chafodd ddirwy o £10,000.

Clywodd Ynadon Llandudno fod Nicholas Roberts, 28 oed o'r Rhyl, yn gweithio ar y safle yn Gwylanedd, Llanfairfechan, ar Ragfyr 4, 2007 pan ddisgynnodd.

Roedd ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi casglu ei fod wedi disgyn oddi ar sgaffaldiau gan dorri ei belfis mewn tri lle, nifer o'i ddanedd a chleisio'i belfis a chesail ei forddwyd.

'Ffodus iawn'

Mae'n anhygoel fod ychydig o esgyrn wedi'u torri
Debbie John

Gweithgor Iechyd a Diogelwch

Dywedodd Debbie John o'r Gweithgor Iechyd: "Ar ôl disgyn o uchder o naw metr mae Mr Roberts yn ffodus iawn i fod yn fyw.

"Mae'n anhygoel fod ychydig o esgyrn wedi'u torri.

"Nid oedd JBB Homes a James Burt wedi darparu system ddiogel o weithio ac nid oedd cyfarpar i atal cwympo o sgaffaldiau.

"Ac nid oedd Mr Burt wedi goruchwylio'i staff.

"Disgyn o uchder fel hyn yw achos mwyaf cyffredin marwolaethau yn y gweithle - ac achosi anafiadau difrifol ac ni all cwmnïau adeiladu adael i ddiogelwch gweithwyr fod yn ail-ystyriaeth all arwain at ganlyniadau trasig."

Yn ystod 2008-09, cafodd mwy na 4,000 o weithwyr anafiadau difrifol ar ôl disgyn o uchder.



HEFYD
Anafiadau difrifol: Dirwy o £8,000
16 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth: Cyhuddo cwmni
06 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific