British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Medi 2010, 14:16 GMT 15:16 UK
Mwy o blant yn cael eu brechu

Brechiad MMR
Ystadegau diweddara: 'Yn galonogol'

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi croesawu ystadegau sy'n dangos bod mwy o blant yn cael eu brechu yn erbyn nifer o glefydau.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Y Cynulliad, mae mwy o blant wedi cael brechiadau yn erbyn 11 o glefydau sy'n gallu peryglu bywyd.

Yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth 2010 cafodd 95% o blant o dan flwydd oed eu brechu yn erbyn diptheria, tetanus, polio, y fogfa, a llid yr ymenydd C ymhlith eraill. Yn achos plant dan ddwy oed mae'r ffigwr yn 97%.

Mae nifer y merched sy'n derbyn y brechiad HPV yn erbyn canser y groth yn dal i godi a 85.3% o ferched rhwng 12 a 17 oed wedi cael y tri brechiad angenrheidiol.

Yn ogystal mae 92% o blant blwydd oed wedi cael y brechiad MMR, mwy nac yn y flwyddyn flaenorol.

'Calonogol'

Dywedodd Dr Jewell: "Mae'r ystadegau'n dystiolaeth o ymdrechion staff iechyd ynghyd ag effaith yr achosion niferus o'r frech goch yng Nghymru.

"Ac mae'n galonogol bod rhieni yn amddiffyn eu plant yn erbyn y clefydau hyn.

"Ond mae lle i wella o hyd, ac mae'n bwysig i rieni fod yn wyliadwrus."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart: "Rydym yn gwybod fod atal clefyd yn well na'i drin, ac mae brechiadau felly'n bwysicach nag erioed - mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod brechiadau'n achub 3 miliwn o fywydau bob blwyddyn.

"Ein nod yw buddsoddi mewn brechiadau er mwyn amddiffyn iechyd unigolion, pobl yn y gymuned ac ysgafnhau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn y tymor hir."



HEFYD
Ffliw moch wedi costio £35m
27 Ebr 10 |  Newyddion
MMR: Mwy yn cael y brechiad
17 Rhag 09 |  Newyddion
Y frech goch: Bron 350 achos
09 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific