Mastiau: 'O fudd i'r gymuned am flynyddoedd i ddod'
|
Mae pobl ardal wledig yng Ngheredigion yn bwriadu codi mastiau eu hunain gan nad oes modd defnyddio ffonau symudol. Hwn fydd y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'r mudiad cymunedol yn ardal Tregaron am rentu'r mast yn ôl i gwmnïau ffonau oedd wedi dweud bod y syniad o godi mast yn "anghynaliadwy yn fasnachol". Bydd y ddau fast cyntaf ym mhentrefi Ystrad Feurig a Llanddewi Brefi ac mae bwriad i godi un yn Nhregaron. Y nod yw gwneud cais am £150,000 o grant i dalu am y mast cyntaf. 'Diflasu' Dywedodd Duncan Taylor, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Ger-y-Gors, fod trigolion a busnesau wedi "diflasu" am nad oedd modd defnyddio'r ffonau. Ychwanegodd Mr Taylor o Bonthryfendigaid fod ei ffôn symudol yn costio £10 y flwyddyn ond nad oedd erioed wedi ei ddefnyddio yn ei bentref ei hun. "Rydyn ni'n credu fod hwn yn gynllun pwysig o safbwynt economeg gymdeithasol fydd o fudd i'n cymuned am flynyddoedd i ddod. "Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i'r bobl leol ac i ymwelwyr sy'n defnyddio llwybrau cerdded mewn ardal lle nad oes ffonau arferol ar gael. "Bydd hefyd yn dod â band eang cyflym i'r gymuned amaethyddol ar adeg pan mae'r llywodraeth yn dod yn fwy dibynnol ar gysylltiad band eang. "Mae adnoddau cynadledda yn colli busnes oherwydd nad oes modd defnyddio'r ffonau. Cynnal a chadw
Dywedodd y byddai incwm rhentu lle ar y mastiau yn talu am gost cynnal a chadw o ddydd i ddydd ac y byddai'r mastiau yn eiddo i gwmni na fyddai'n gwneud elw. Mae Llyr Jones, rheolwr Pafiliwn y Bont ym Mhontrhydfendigaid, wedi dweud: "Yr unig gwyn gawn ni oddi wrth gwsmeriaid, yn gleientau ac ymwelwyr, yw nad ydyn nhw'n gallu defnyddio ffonau symudol. "Ychydig wythnosau yn ôl, roedd cynhadledd Tolkien yma, ac roedd pobl wedi dod o bedwar ban byd. "Roedden nhw'n gorfod mynd i'r pentre gerllaw i ddefnyddio blwch ffôn cyhoeddus. "Bydd y mastiau'n gaffaeliad mawr i'r ardal a byddwn ni'n gallu cystadlu â busnesau tebyg mawr ..." Mae dwy fferm gyfagos wedi eu dewis fel safleoedd i'r mastiau newydd. Bydd y fforwm yn gwneud cais am grant o £150,000 i godi'r mast cyntaf yn Ystrad Meurig, a'r gobaith yw y bydd y mast yn barod erbyn diwedd y flwyddyn.
|