British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Awst 2010, 09:05 GMT 10:05 UK
Beicio i Baris i godi arian

Llindsay Hicks ac Eifion Williams
Lindsay Hicks ac Eifion Williams ar ddiwedd Ras 2009

Bydd dau ddyn busnes o Sir Fflint yn cychwyn ar ras feicio ryfeddol nos Fawrth i godi arian at elusen.

Llwyddodd Eifion Williams a Lindsay Hicks gwblhau Ras Feicio'r Pabi o Lundain i Baris yn 2009, ac mae'r ddau y tro hwn wedi ffurfio tîm o 11 i'w gwneud am yr eildro.

Y Lleng Brydeinig sy'n trefnu'r ras flynyddol, ac yn 2009 fe gododd y ddau dros £6,000 i'r elusen.

Addawodd Eifion, o garej Loggerheads, a Lindsay, o gwmni Cyfrifwyr Hicks Randles, y byddai'r ddau yn annog criw i ymuno a nhw ar gyfer ras 2010.

Bydd Tîm Colmendy yn mynd i Lundain ddydd Mercher ar gyfer dechrau'r ras o Greenwich fore Iau am 8.00am.

Dechreuodd diddordeb Mr Williams, o Sychdyn, flynyddoedd yn ôl wrth iddo fynd am dro gyda'i wraig heibio cofeb rhyfel y pentre.

Ymchwilio

Tim Colomendy
Tm Colomendy wrth y gofeb rhyfel

Dechreuodd y ddau ymchwilio i hanes rhai o'r milwyr oedd wedi'u henwi ar y gofeb o blwy Llaneurgain, a thrwy hynny daeth i gysylltiad â'r Lleng Brydeinig.

Dywedodd Mr Williams: "Clywais am y ras flynyddol, a soniais wrth fy ffrind Lindsay Hicks y byddai'n syniad mynd amdani, ond pan ddywedodd o wrtha i o fewn dyddiau ei fod wedi prynu beic roedd yn dal yn dipyn o sioc.

"Doedd yr un o'r ddau ohono ni wedi seiclo o'r blaen.

"Ar ôl i ni lwyddo yn 2009 fe wnaeth llawer o ffrindiau ddweud y bydden nhw'n fodlon rhoi cynnig arni eleni - rydym wedi casglu bron £9,000 at yr elusen hyd yma, ac yn gobeithio bydd y ffigwr yn llawer mwy na hynny erbyn i ni orffen."

Cau'r 'Arc'

Wrth i'r ras ddirwyn i ben ym Mharis ddydd Sul, bydd yr Arc De Triomphe ar gau - un o dri achlysur yn unig pan bod hynny'n digwydd.

Diwrnod Bastille a diwedd y Tour De France yw'r ddau achlysur arall.

Eisoes mae Tîm Colomendy wedi cynnal gweithgareddau i godi arian gan gynnwys ras feicio i blant blwyddyn 6 yng Nghoed Landegla.

Bydd yr holl arian o Ras Feicio'r Pabi 2010 yn mynd i gefnogi aelodau o'r lluoedd arfog sy'n dychwelyd o Afghanistan.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific