British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Awst 2010, 09:38 GMT 10:38 UK
Rhybudd am dwyll treth cyngor

Twyll Ffn

Mae heddlu Dyfed Powys a dau gyngor sir yn rhybuddio pobl am dwyll sy'n honni ar gam y dylai pobl gael ad-daliad treth.

Mae'r twyllwyr yn ffonio cartrefi gan honni eu bod yn swyddogion treth a chynnig miloedd o bunnoedd mewn ad-daliad.

Er mwyn hawlio'r ad-daliad, mae'n rhaid i'r trigolion rhoi pasport, cerdyn credyd neu fanylion banc i'r twyllwyr.

Mae Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Ceredigion a Cyngor Sir Gâr yn dweud wrth bobl i beidio datgelu manylion eu cyfrifon banc.

Yn ol cyngor Sir Gâr, mae'r math yma o dwyll yn digwydd bob rhy ychydig fisoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans: "Yn anffoddus mae'r twyll yma'n digwydd yn gyson, ac rydym am i bobl fod yn wyliadwrus.

"Does neb o'r cyngor yn ffonio pobl i gynnig ad-daliad o'u treth cyngor.

"Fel arfer os yw rhywbeth yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, yna mae e."

Dywedodd Cyngor Ceredigion: "Mae'r twyllwr yn ffonio gan honni ei fod yn swyddog ac yn dweud wrth bobl fod arian ar ôl yn eu cyfrif treth cyngor a bod y cyngor am ei ad-dalu."

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Ar adegau eraill, mae'r twyllwr yn gofyn am daliad gweinyddu er mwyn trefnu'r ad-daliad.

"Os oes unrhywun yn derbyn galwad o'r fath, peidiwch datgelu manylion personol o gwbl a chysylltwch â'r heddlu ar 101."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific