British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Awst 2010, 07:00 GMT 08:00 UK
Gweinidog yn agor dwy uned newydd

Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli
Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli

Bydd y gweinidog iechyd Edwina Hart yn agor dwy uned newydd mewn dau ysbyty yn y gorllewin fore Mawrth.

Bydd Uned Gofal y Fron, sydd wedi cael £6.6 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad, yn agor yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, tra bydd canolfan gofal brys, a gafodd £10.3 miliwn, yn agor yn swyddogol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Cyflymu triniaeth

Dywed y gweinidog y bydd y ddwy ganolfan yn gyfleusterau o'r radd flaenaf yn y gorllewin, ac yn cyflymu triniaeth a gwella gofal cleifion.

Yn Llanelli, bydd Uned Gofal Y Fron yn darparu ystafelloedd ymgynghori ac archwilio ychwanegol, gwasanaethau lymffoedema a chemotherapi yn ogystal ag estyniad i wardiau llawfeddygol.

Dywed Simon Holt, Oncolegydd Ymgynghorol Ysbyty'r Tywysog Philip, y bydd y datblygiad yn rhoi hyder i gleifion.

Edwina Hart AC
Bydd y Ganolfan Gofal Brys newydd hon yn sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd ar gael i gleifion yn fwy hwylus ac yn helpu i leihau amseroedd aros
Edwina Hart AC

Gweinidog Iechyd

"Erbyn hyn, mae canser y fron yn glefyd y mae modd cael gwared ag ef, ond mae'n bwysig ein bod ni nid yn unig yn helpu menywod i wella ond hefyd yn rhoi'r hyder iddyn nhw ailgydio yn eu bywyd arferol cyn gynted â phosibl.

"Bydd canolfan gofal y fron yn sicrhau ein bod ni'n cynnig y cymorth seicolegol gorau yn ogystal â'r gofal meddygol gorau i'n cleifion."

Yn y cyfamser bydd Uned Gofal Brys Sir Benfro yn dod a gofal brys a gwasanaethau cymdeithasol dan yr un to am y tro cyntaf.

Bydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau.

Dywedodd Dr Iain Robertson-Steel, Cyfarwyddwr Clinigol Ysbyty Llwynhelyg: "Mae'r Ganolfan Gofal Brys yn defnyddio'r offer gorau a modelau gofal newydd a fydd yn creu gwasanaeth llawer mwy integredig ac ymatebol."



HEFYD
Galw cyfarfod brys am ysbytai
05 Awst 10 |  Newyddion
Adnewyddu, nid dymchwel ysbyty
23 Gorff 10 |  Newyddion
Gwario 'llai o arian' ar iechyd Cymru
14 Gorff 10 |  Newyddion
Toriadau iechyd o bron i £2bn?
02 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific