British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 29 Awst 2010, 15:02 GMT 16:02 UK
Dathlu hanes eglwys

Eglwys Farmor Bodelwyddn

Mae penwythnos o ddigwyddiadau arbennig wedi dechrau i ddathlu 150 mlwyddiant yr Eglwys Farmor enwog ym Modelwyddan.

Mae Eglwys Santes Margaret - a gwblhawyd yn 1860 - hefyd yn cael ei hadnabod fel yr Eglwys Farmor gan fod 13 gwahanol fath o farmor i'w gweld yno.

Cafodd ei chodi er cof am Henry Arglwydd Willoughby de Broke gan ei weddw Margaret ar gost o £60,000, gan wneud y teulu yn fethdalwyr.

Adroddiad Dafydd Gwynn ar Newyddion nos Sul.

Roedd disgynyddion yr Arglwyddes Margaret yn bresennol mewn gwasanaeth arbennig ddydd Sul.

Hi osododd gonglfaen yr eglwys - oedd yn arfer bod yn rhan o stad Castell Bodelwyddan - yn 1856.

Cafodd yr eglwys ei chysegru gan Esgob Llanelwy ar Awst 23, 1860.

Gyda thŵr sy'n 202 troedfedd (62m) o daldra, mae'r eglwys yn atyniad i dwristiaid, a gellir ei gweld am filltiroedd o'i chwmpas.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific