Argraff artist o arena rhew newydd Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi cwmni hamdden Planet Ice fel yr un fydd yn codi llawr sglefrio newydd i bentref chwaraeon rhyngwladol y ddinas. Bydd y gwaith yn dechrau y flwyddyn nesa os daw caniatád cynllunio, gyda'r arena rhew newydd ar agor erbyn Chwefror 2012. Planet Ice - sydd eisoes yn berchen arena rhew ym Mae Caerdydd - fydd yn gyfrifol am redeg yr arena newydd yn ogystal a chynllunio ac adeiladu'r ganolfan. Bu'n rhaid dymchwel hen lawr sglefrio Caerdydd yng nghanol y ddinas fel rhan o ddatblygiad canolfan siopa Dewi Sant. Dywedodd Cyngor Caerdydd fod yr awdurdod wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth gyda Planet Ice a thîm hoci iâ Devils Caerdydd i sicrhau y bydd y cynllun yn llwyddo. Yn ôl arweinydd y cyngor, Rodney Berman, bydd yn gam mawr ymlaen. "Bydd y ganolfan yn ychwanegiad syfrdanol arall i'r adnoddau chwaraeon o safon byd eang y gall Caerdydd eu cynnig, ac yn rhan arall o'r jigsó wrth ddatblygu pentref chwaraeon rhyngwladol Caerdydd," meddai. "Yn wreiddiol, roedd llawr sglefrio i fod yn rhan o gynllun ehangach am arena aml-bwrpas, ond pan ddaeth hi'n amlwg y byddai cymeryd mwy o amser i greu'r adnodd yn y ffordd yna, fe benderfynnon ni fwrw mlaen gyda'r arena rhew yn unig. Bydd y gwaith o ddatblygu cynllun i'r arena rhew newydd yn dechrau ddiwedd mis Medi.
|