British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Awst 2010, 12:18 GMT 13:18 UK
Pont newydd i Fachynlleth?

Pont Ddyfi, Machynlleth
Mae'r bont yn cael ei difrodi'n aml

Gallai pont newydd gael ei chodi i gymryd lle'r un dros y Ddyfi ym Machynlleth.

Mae'r bont 200 mlwydd oed - sydd yn adeilad cofrestredig - wedi ei difrodi sawl gwaith gan gynnwys cael ei tharo gan lori ym mis Mehefin.

Cafodd y bont ei chau bryd hynny, ond mae disgwyl iddi ailagor yn llawn ym mis Medi. Mae ceir a faniau wedi gallu croesi'r bont, ond bu'n rhaid defnyddio goleuadau traffig yno.

Mae Llywodraeth Y Cynulliad yn ystyried cryfhau a lledu Pont Ddyfi ym Machynlleth ynghŷd â chodi strwythur newydd.

Ers y ddamwain ddiweddara, daeth galwadau gan bobl leol am bont arall yn ei lle.

'Sawl dewis'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Y Cynulliad: "Mae'r bont ar gau i lorïau trwm ar hyn o bryd am resymau diogelwch. Bydd y bont yn ailagor i drafnidaeth pan fydd y gwaith trwsio wedi'i gwblhau, a gobeithio y bydd hynny yn gynnar ym mis Medi.

"Rydym yn ystyried sawl dewis i wella croesi afon Ddyfi, gan gynnwys cryfhau a lledu'r bont bresennol, ynghyd a chodi pont newydd.

"Mae'r bont bresennol yn adeilad cofrestredig Gradd II yn ogystal a bod yn Henebyn Swyddogol, felly rhaid ystyried gofynion cadwriaethol CADW wrth wneud unrhyw waith trwsio neu wella'r strwythur."

'Ateb synnwyr cyffredin'

Ym mis Mehefin, galwodd y cynghorydd Michael Williams - sy'n cynrychioli Machynlleth - am bont arall.

Eglurodd bod Pont Ddyfi yn aml yn cael ei tharo gan gerbydau, ac hefyd yn diodde oherwydd llifogydd yn gyson.

Mae aelod cynulliad Sir Drefaldwyn, Mick Bates, wedi cefnogi galwad Mr Williams gan ddisgrifio pont newydd fel 'ateb synnwyr cyffredin' i'r broblem.



HEFYD
Cau pont yn achosi oedi
25 Meh 10 |  Newyddion
Llifogydd: Achub dyn o bont
11 Rhag 06 |  Newyddion
Galw am arian am bont newydd
20 Medi 00 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific