Bu'r heddlu yn cynnal archwiliad manwl o fflat Mr Williams yn Pimlico
|
Mae teulu dyn 31 oed o Ynys Môn wedi rhoi teyrnged iddo, wedi i'w gorff gael ei ddarganfod mewn fflat yn Llundain ddechrau'r wythnos. Yn ôl ei deulu roedd Gareth Williams yn "fab, brawd ac yn gyfaill cariadus a hael". Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â marwolaeth y Cymro oedd yn gweithio i MI6 i gysylltu â'r heddlu. Gwenwyn? Cafwyd hyd i gorff Mr Williams mewn bag chwaraeon oedd yn y bath yn y fflat yng nghanol Llundain ddydd Llun. Methodd archwiliad post mortem â chanfod union achos ei farwolaeth. Bydd profion pellach yn dangos os cafodd Mr Williams ei wenwyno, neu os oedd cyffuriau neu alcohol yn bresennol yn ei gorff. Roedd ar fin cwblhau blwyddyn o ymlyniad gyda MI6 o'i waith gyda gorsaf glustfeinio GCHQ yn Cheltenham yn Swydd Gaerloyw. Cred yr heddlu y gallai'r corff fod wedi gorwedd heb ei ddarganfod am bythefnos gan fod pobl yn meddwl fod Mr Williams ar wyliau pan fu farw. Teyrnged
Yn y cyfamser, mae penaethiaid GCHQ wedi talu teyrnged i Gareth Williams gan gadarnhau am y tro cyntaf ei fod yn gweithio i'r gwasanaethau cudd yno. Mae datganiad ar ran y gwasanaeth yn dweud: "Gallwn gadarnhau fod Dr Gareth Williams yn was cyflog i GCHQ oedd yn gweithio yn Llundain. "Mae marwolaeth drist Gareth yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, ac felly nid yw'n briodol i wneud sylw pellach "Rydym yn meddwl am ei deulu yn ystod y cyfnod anodd yma." Dywed yr heddlu hefyd y gallai fod Mr Williams yn nabod ei lofrudd gan nad oedd arwydd fod neb wedi torri i mewn i'r fflat yn Alderney Street yn ardal ffasiynol Pimlico.
|