British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Awst 2010, 12:50 GMT 13:50 UK
MI6: Mwy o deyrngedau i'r Cymro

Y corff yn cael ei symud o'r fflat
Y corff yn cael ei symud o'r fflat

Mae mwy o deyrngedau wedi cael eu rhoi i Gareth Williams, gweithiwr cudd MI6 gafodd ei ganfod mewn bag yn ei fflat yn Llundain ddydd Llun.

Caiff profion pellach eu cynnal ar gorff y Cymro 30 oed o Ynys Môn ar ôl i archwilid post mortem -fe fethu cynnig esboniad ynglŷn â'i farwolaeth.

Dywedodd Heddlu'r Met eu bod yn trin ei farwolaeth fel "un amheus ac anesboniadwy".

Mae'r heddlu yn archwilio'i gofnodion personol wrth geisio canfod pam a sut y bu farw.

Yn ôl ei gyn-athro mathemateg yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Geraint Williams, roedd yn ddisgybl "neilltuol".

Gradd

"Efallai nad fo oedd y mathemategydd gorau i mi ei gyfarfod ond roedd y rhesymegwr gorau.

"Pe tae chi'n esbonio rhywbeth unwaith i Gareth fe fyddai'n cofio, doedd dim angen esbonio ddwywaith.

"Doedd o ddim syndod i mi iddo gael ei benodi gan GCHQ.

Geraint Williams
Dywed Geraint Williams fod ei ddisgybl yn un arbennig iawn

"Roedd yn amlwg am fyd i'r byd hwnnw."

Graddiodd Mr Williams gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor yn 17 oed ar ôl astudio ar gyfer ei radd tra'n ddisgybl ysgol.

Mewn datganiad dywedodd y brifysgol eu bod wedi tristau o glywed am ei farwolaeth a'u bod yn cydymdeimlo gyda'i deulu.

Aeth ymlaen i Goleg St Catherine's yng Nghaergrawnt i wneud cwrs ôl-radd mewn mathemateg yn 2000 ond gadawodd wedi blwyddyn.

Sioc

Dydd Mercher, pan gyhoeddwyd mai ei gorff gafodd ei ganfod yn y fflat yn ardal Pimlico ddydd Llun, dywedodd ei ewythr, William Hughes, ei fod yn "hynod alluog".

"Fyddai o byth yn siarad am ei waith ac roedd y teulu yn gwybod i beidio holi."

Roedd Mr Williams yn feiciwr brwd ac ymunodd gyda chlwb beicio Caergybi yn 17 oed.

"Roedd yn sioc clywed y newyddion," meddai Keith Thompson o'r clwb.

"Rydym wedi dychryn, roedd yn ddyn ifanc hyfryd.

"Wedi iddo symud i Cheltenham doedden ni ddim yn ei weld mor aml ac roedd wedi ymuno â chlwb yno.

"Roedd yn feiciwr da iawn," ychwanegodd.



HEFYD
Ymchwilio i lofruddiaeth aelod MI6
25 Awst 10 |  Newyddion
Mwy o brofion ar gorff gweithiwr MI6
26 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth yn sioc ysgytwol i deulu
25 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific