British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Awst 2010, 17:08 GMT 18:08 UK
Mwy o brofion ar gorff gweithiwr MI6

Y corff yn cael ei symud o'r fflat
Y corff yn cael ei symud o'r fflat

Caiff profion pellach eu cynnal i geisio darganfod union achos marwolaeth dyn o Ynys Môn oedd yn gweithio i wasanaeth cudd MI6.

Cafodd corff Gareth Williams, 30 oed ac sy'n wreiddiol o ardal Caergybi, ei ddarganfod yn ei fflat yng nghanol Llundain ddydd Llun.

Roedd ei gorff mewn bag chwaraeon oedd wedi ei osod mewn bath yn y fflat yn ardal Pimlico.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Mercher. Dydi hi ddim yn glir ers pryd y bu farw.

Mae Heddlu'r Met yn trin ei farwolaeth fel un "amheus ac anesboniadwy".

Yn ystod y dydd ddydd Iau mae swyddogion fforensig wedi bod yn archwilio'r fflat yn Alderney Street ac fe fydd profion gwaed ar gorff Mr Williams yn cael eu cynnal hefyd.

Cafodd ei gorff ei ganfod ar ôl i'r heddlu dorri mewn i'r fflat ar ôl i'w gyd-weithwyr ddweud nad oedd wedi cael ei weld am o leiaf 10 niwrnod.

Roedd rhai yn credu ei fod ar wyliau ar y pryd.

Dychwelyd i Cheltenham

Roedd Mr Williams yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i wasanaeth clustfeinio Prydain, GCHQ, ond roedd ar secondiad i wasanaeth cudd MI6 ers blwyddyn yn Llundain.

Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i GCHQ yn Cheltenham ym mis Medi.

Yn ôl ei gyn-landlord, Jenny Elliott, roedd Mr Williams yn byw mewn fflat drws nesaf iddi yn Cheltenham am 10 mlynedd.

Dywedodd ei bod yn ei ddisgwyl yn ôl yno ar Fedi 3.

"Fe wnaeth fy ffonio i rai wythnosau yn ôl i ddweud ei fod yn dod yn ôl.

"Roedd yn ddyn hoffus, cyfeillgar ac yn fonheddig.

"Roedd yn aml i ffwrdd, yn gweithio yn America lot."

Roedd ei fflat yn Llundain lai na hanner milltir o bencadlys MI6 ar lan Afon Tafwys.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i fywyd personol Mr Williams a oedd yn ŵr preifat iawn.

Mae'r heddlu yn credu bod cysylltiad rhwng ei fywyd personol a'i farwolaeth.

Maen nhw'n credu ei fod yn adnabod ei lofrudd gan nad oedd neb wedi torri mewn i'r fflat.

Roedd rhieni Mr Williams, Ian ac Ellen Williams, ar wyliau yn America ac maen nhw wedi hedfan yn ôl wedi iddyn nhw glywed am ei farwolaeth.

Maen nhw yn Llundain gyda'u merch Ceri.

Dydi manylion ei waith gyda'r gwasanaethau cudd ddim wedi ei ddatgelu.

Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, sy'n delio gydag ymholiadau'r wasg ar ran MI6, wedi dweud bod ei farwolaeth "yn fater i'r heddlu".

"Mae'n bolisi gan y llywodraeth i beidio cadarnhau neu wadu manylion gwaith unigolyn sy'n gweithio i'r gwasanaethau cudd."



HEFYD
MI6: Mwy o deyrngedau i'r Cymro
26 Awst 10 |  Newyddion
Ymchwilio i lofruddiaeth aelod MI6
25 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth yn sioc ysgytwol i deulu
25 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific