British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Awst 2010, 07:27 GMT 08:27 UK
Mwy o ddynion Cymru chanser na gweddill Prydain

meddygon
Dros 500 o ddynion yn marw o ganser y prostad yng Nghymru bob blwyddyn

Mae nifer y dynion yng Nghymru sydd â chanser yn uwch nag yng ngweddill Prydain, yn ôl yr ystadegau swyddogol diweddaraf.

Mae bron i 9,000 o ddynion yng Nghymru yn darganfod fod ganddyn nhw ganser bob blwyddyn.

Yn ôl yr ystadegau mae nifer yr achosion o ganser y prostad 17% yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Prydain ond mae'r gyfradd marwolaethau 1% yn is.

Dywedodd Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru bod y cyfraddau uwch o ganlyniad i ddiagnosis cynnar.

Mae'r ffigyrau diweddaraf, yn cyfeirio at gyfnod rhwng 2005 a 2007 ac mae'n dangos bod y gyfradd canser ymhlith dynion 11% yn uwch na chyfartaledd y DU.

'Lleihau'r bwlch'

Dywedodd Shelagh Reynolds, rheolwr cyffredinol Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, a gasglodd y ffigyrau ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bod tueddiadau cyfoes yn dangos cynnydd mewn lefelau goroesi yng Nghymru, gan leihau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU.

"Er nad oes gennym dystiolaeth i gefnogi hyn, rydym o'r farn bod y ffigyrau yn ganlyniad i ddiagnosis cynt," meddai.

Mae dros 500 o ddynion yn marw o ganser y prostad yng Nghymru bob blwyddyn.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y bydd 'gweithiwr allweddol' yn cael ei benodi i gadw gofal ar bob claf sy'n dioddef o ganser, yn ôl canllawiau newydd Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl y llywodraeth, bydd hyn yn golygu y bydd y claf yn gwybod at bwy i droi yn ystod cyfnod y driniaeth.

Y gweithiwr allweddol fydd yn cyd-gysylltu'r gofal sydd ei angen.

Mae'r canllawiau newydd hefyd yn gosod safonau newydd wrth drin cleifion canser.

Cafodd y safonau eu datblygu gan y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser, gan ymgynghori ag arbenigwyr canser a chleifion sy'n dioddef o ganser.

Mae'n ofynnol i'r Byrddau Iechyd sicrhau bod y gweithwyr allweddol wedi eu penodi erbyn diwedd mis Mawrth 2011.



HEFYD
Cynnydd yn achosion canser y croen
01 Ebr 10 |  Newyddion
'Anwybyddu' cleifion canser
27 Ion 10 |  Newyddion
Pryder am ofal cleifion canser
02 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific