British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Awst 2010, 13:56 GMT 14:56 UK
Ymchwilio i lofruddiaeth aelod MI6

Teulu Gareth Hughes yn ymateb i'w farwolaeth

Mae wedi dod i'r amlwg bod aelod o wasanaethau cudd MI6 sydd wedi ei ddarganfod yn farw yn ei fflat yn Llundain yn hanu o Ynys Môn.

Roedd Gareth Williams, 30 oed, yn dod o ardal Caergybi, ac mae'r heddlu yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth.

Y corff yn cael ei symud o'r fflat
Y corff yn cael ei symud o'r fflat

Fe gafodd ei gorff ei ddarganfod mewn fflat yn ardal Pimlico yn Llundain ddydd Llun.

Roedd wedi ei roi mewn bag chwaraeon mawr ac wedi ei osod mewn bath.

Cafodd swyddogion eu galw gan gydweithwyr oedd yn dweud nad oedden nhw wedi ei weld ers peth amser.

Mae'r heddlu'n credu y gallai'r corff fod wedi bod yno ers pythefnos.

Roedd Mr Williams yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i wasanaeth clustfeinio Prydain, GCHQ, ond roedd ar secondiad i wasanaeth cudd MI6 ers blwyddyn ac roedd disgwyl iddo ddychwelyd i GCHQ yn Cheltenham ym mis Medi.

Disgybl disglair

Mae cymdogion yn Llundain wedi ei ddisgrifio fel "dyn cyfeillgar" oedd yn siarad ag acen Gymreig.

Roedd rhieni Gareth Williams, Ian ac Ellen, ar wyliau yn yr Unol Daleithiau pan glywson nhw'r newyddion.

Fe wnaethon nhw lanio yn ôl ym Manceinion fore Mercher lle'r oedd yr heddlu yn aros i'w cludo i Lundain.

Maen nhw bellach yn byw yn y Fali, ond treuliodd Gareth ei blentyndod yng Nghaergybi, lle'r oedd e'n cael ei ystyried yn ddisgybl rhyfeddol o ddisglair, yn gyntaf yn Ysgol y Morswyn Caergybi ac yna yn Ysgol Uwchradd Bodedern.

Dywedodd aelod o'r teulu, William Hughes, fod y newyddion am ei farwolaeth wedi bod yn sioc ysgytwol i'r teulu.

"Mae'n sioc ofnadwy. Anodd iawn credu'r peth", meddai Mr Hughes.

"Roedd yn fachgen distaw, a chlyfar ofnadwy.

"Byddai'n mynd ar ei feic ar hyd a lled yr ynys.

"Roedd pawb yn gwybod o'i blentyndod ei fod yn arbennig o ddisglair, ond ni fyddai byth yn siarad am ei waith".



HEFYD
Marwolaeth yn sioc ysgytwol i deulu
25 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific