British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Awst 2010, 16:46 GMT 17:46 UK
Defnydd bagiau plastig wedi haneru

Bagiau plastig
Bob blwyddyn yng Nghymru mae 400 miliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio

Mae nifer y bagiau plastig sy'n cael eu defnyddio gan gwsmeriaid mewn siopau yng Nghymru wedi haneru ers 2006.

Dyna'r gostyngiad mwyaf ar draws Prydain, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain.

Mae nifer y bagiau plastig sy'n cael eu cynnig i gwsmeriaid mewn siopau sy'n cael eu defnyddio un tro wedi gostwng 43% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Llywodraeth y Cynulliad am gyflwyno tâl o 7 geiniog am fagiau plastig mewn siopau yng Nghymru o fis Mawrth 2011 mewn ymgais i gwtogi nifer y bagiau sy'n mynd i domenni sbwriel.

Bob blwyddyn yng Nghymru mae 400 miliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio a gall gymryd hyd at 1,000 o flynyddoedd i rai ohonynt bydru'n naturiol.

Ym mis Mehefin cafodd Llywodraeth y Cynulliad ei beirniadu gan Gonsortiwm Arwerthwyr Prydain am fod 'y wlad gyntaf yn y DU i godi tal ychwanegol ar gwsmeriaid ar gyfnod pan eu bod eisoes yn ei chael hi'n anodd.'

'Ymdrechion parhaus'

Dywedodd Gweinidog Yr Amgylchedd Jane Davidson: "Mae'r ffigurau'n dangos bod Cymru eisoes yn gwneud ychydig yn well na gweddill y DU.

"Dw i o'r farn bod hyn nid yn unig oherwydd ymdrechion parhaus manwerthwyr a phobl ledled Cymru ond hefyd oherwydd trafodaeth, cyhoeddusrwydd a momentwm cyffredinol sy'n cynyddu ledled Cymru cyn i'r tâl am fagiau siopa untro gael ei gyflwyno yn y gwanwyn.

"Unwaith eto, byddwn i'n pwyso ar siopwyr ledled Cymru i gofio ailddefnyddio eu bagiau pan fo hynny'n bosibl yn barod ar gyfer yr arfer o godi tâl."



HEFYD
Codi tl o 15c am fagiau plastig
29 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific