Mae'r adeiladau hynafol yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn
|
Fe fydd £1 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario er mwyn adnewyddu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd. Mae poblogrwydd yr amgueddfa yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi straen ar yr adeiladau yno. Ymhlith y gwaith cynnal a chadw a moderneiddio'r safle y mae gwella'r cyflenwad trydan a dŵr. Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, bod yr arian "yn hanfodol" i gynnal statws "eiconig" Sain Ffagan. Sain Ffagan yw atyniad twristiaeth mwya poblogaidd Cymru ac mae'n denu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn ddiweddar roedd yr amgueddfa yn un o'r 10 safle di-dâl gorau ledled y DU gan ddefnyddwyr gwefan Trip Advisor. Gwella delwedd Dywedodd Mr Jones eu bod fel llywodraeth yn awyddus i sicrhau bod Sain Ffagan yn parhau i fod yn ganolog i fywyd diwylliannol Cymru fel y prif atyniad di-dâl i dwristiaid yng Nghymru. "Mae'n hanfodol bod y sefydliad cenedlaethol sydd mor agos at ein calon yn cael ei wella er mwyn cyflwyno delwedd fodern, hyderus ac amrywiol o Gymru i ymwelwyr."
Mae mynediad am ddim i'r amgueddfa wedi rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr
|
Cafodd yr amgueddfa ei hagor ar Orffennaf 1 1948. Mae'r safle 100 erw yn gartref i dros 40 o adeiladau o bob rhan o Gymru a gafodd ei symud yno fricsen wrth fricsen. Yn gynharach eleni llwyddodd yr amgueddfa yn y cam cyntaf yn eu cais ar gyfer grant loteri o £8.7 miliwn. Fe wnaeth yr amgueddfa ymgeisio am yr arian gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri fel rhan o gynlluniau gwerth £20.75 miliwn i ailddatblygu'r safle. Mae'r gronfa wedi rhoi sêl ei bendith i fwrw ymlaen â'r gwaith o gynllunio gwelliannau, gan roi £450,000 o gyllid datblygu er mwyn helpu i symud y prosiect yn ei flaen.
|