British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Awst 2010, 11:43 GMT 12:43 UK
Cynlluniau i godi parlwr godro ar gyfer 1,000 o wartheg

Fferm Lower Leighton, Tre'r-llai
Mae'r ffermwr eisiau codi parlwr godro ar gyfer 8,000 o wartheg

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus ym Mhowys nos Fercher i drafod cynlluniau dadleuol i godi parlwr godro ar gyfer 1,000 o wartheg.

Mae rhai o bentrefwyr Tre'r-llai ger Y Trallwng yn cwyno bod y cynllun yn rhy fawr ac yn poeni am yr arogl.

Ond mae eraill yn derbyn bod angen rhywbeth fel hyn er mwyn rhoi hwb i ddiwydiant sydd mewn cyfnod o newid.

Mae pris litr o laeth yr un fath ag yr oedd 15 mlynedd yn ôl ac mae nifer yn credu mai'r unig ffordd i wneud arian yw drwy gynhyrchu llaeth ar raddfa eang.

Yng Nghymru mae 'na tua 2,000 o fuchesi godro a chynhyrchwyr llaeth yn gyfrifol am dros chwarter allbwn amaethyddol y wlad.

Ond mae'r ddelwedd draddodiadol o fferm laeth gyda thua 50 o wartheg godro yn newid gan nad yw hyn yn gynaliadwy yn ôl arbenigwyr.

Gofal y gwartheg

Dywedodd Glyn Williams sy'n byw ger Tre'r-llai fod y cynllun yno yn mynd i ddibynnu ar gefndir llawer o'r rhai sy'n gwrthwynebu.

"I rywun sydd wedi cael ei fagu mewn ardal wledig neu ar fferm dydio ddim yn broblem

"Yr unig sialens i'r ffermwr ydi sicrhau bod gofal y gwartheg, yr hwsmonaeth, i fyny i'r safon sy'n ofynnol."

Fraser Jones
Fe fydd Mr Jones yn trafod ei gynlluniau yn y cyfarfod cyhoeddus

Fe fydd y ffermwr Fraser Jones yn y cyfarfod nos Fercher i drafod ei gais

Cyngor Powys fydd yn gorfod gwneud penderfyniad am y cais ar gyfer y parlwr godro.

Ond mae 'na gynlluniau mwy hefyd.

Yn Sir Gaerfyrddin mae 'na gynllun i gael parlwr godro ar gyfer 2,000 o wartheg ac yn Sir Lincoln mae 'na gais am barlwr enfawr ar gyfer 8,000 o wartheg.

Mae'r cynlluniau yma yn cael eu gweld fel newid sylweddol yn y diwydiant.

Diddymu'r ddau daliad

"Mi rydan ni'n sylwi bod y sefyllfa yma yn bodoli mewn nifer o lefydd, fod y buchesi yn mynd yn fwy ac yn fwy," meddai Gareth Vaughan, Llywydd Undeb Amaethyddol Cymru.

"Y system sy'n anheg yn fy marn i, bod y diwydiant yn talu mwy i'r ffermwr mawr na'r ffermwyr bach.

"Dwi ddim yn derbyn bod rhaid i'r cwmni sy'n prynu'r llaeth fod â dau bris, un i'r ffermwr bach ag un i'r ffermwr mawr.

"Mae'n gwbl annerbyniol ac yn anheg ac fe ddylai gael ei ddiddymu."

Dywedodd hefyd nad yw'n gweld dyfodol i'r ffermwyr efo nifer bychan o wartheg.

"Dwi'n ofni y bydd rhaid iddyn nhw newid y system neu adael y diwydiant a mynd i gadw defaid neu wartheg cig eidion."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific