British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Awst 2010, 07:26 GMT 08:26 UK
Pentrefwyr yn protestio oherwydd arogl safle compostio

Safle Compost Bryn
Mae pentrefwyr yn poeni am yr arogl sy'n dod o'r safle

Fe fydd pentrefwyr sy'n anhapus am arogl bwyd sy'n pydru o ganolfan gwastraff compost yn protestio.

Dywed pobl Gelligaer, Penybryn a Nelson yn sir Caerffili bod yr arogl o safle Compost Bryn yn golygu nad oes modd iddyn nhw agor eu ffenestri dros yr haf.

Maen nhw'n gobeithio y bydd y cwmni yn cymryd camau wrth iddyn nhw brotestio yn Ysgol Greenhill, Gelligaer ddydd Mercher.

Yn ôl cwmni Compost Bryn maen nhw'n cydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dywedodd Ray Matthews o Gelligaer bod trigolion yn poeni hefyd am beryglon iechyd o anadlu'r arogleuon.

Arogl ofnadwy

Mae Mr Matthews yn aelod o bwyllgor gafodd ei sefydlu gan Gyngor Caerffili i gysylltu'r gymuned, y cyngor a'r cwmni.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl o blaid ail-gylchu, ond o ran iechyd ac ansawdd bywyd, mae'r safle yn y lle anghywir," meddai.

"Rydym wedi bod yn diodde oherwydd yr arogleuon sy'n dod o'r safle ers pedair blynedd.

"Ond dros y ddwy flynedd diwethaf, mae o wedi bod yn gwbl ofnadwy."

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad oes 'na berygl i iechyd y cyhoedd oherwydd yr arogleuon.

Maen nhw'n dweud hefyd eu bod wedi cymryd nifer o gamau i geisio datrys y sefyllfa.

"Rydym yn cydnabod bod 'na arogl weithiau ar y safle ac rydym yn cydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i wella'r sefyllfa."

Mae Compost Bryn wedi cyflwyno cais i'r cyngor sir i wneud eu gwaith o fewn adeilad ac i gompostio mewn ffordd wahanol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn gobeithio y bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad ar y cais diweddara yn y misoedd nesaf.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific