British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Awst 2010, 19:46 GMT 20:46 UK
Model ar gyfer adfywio cymunedau?

Ysgol Y Parc
Y penderfyniad i gau Ysgol Y Parc wedi cythruddo nifer o drigolion lleol

Cafodd cynllun peilot a "allai fod yn fodel ar gyfer adfywio cymunedau" ei lansio gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ar faes Sioe Meirion ger Harlech, fe wnaeth y Gymdeithas gyflwyno'r copi cyntaf o "Gynllun Adfywio Cymunedau Penllyn" i Bartneriaeth Penllyn (cynghrair o Gynghorau Cymuned yn ardal Y Bala) ddydd Mercher.

Mae'r cynllun yn cynnwys adrannau ar sicrhau tai i bobl leol a datblygu seiliau economaidd y cymunedau yn ogystal â defnyddio ysgolion yr ardal i gryfhau'r cymunedau Cymraeg.

Gofynnwyd am ymateb Llywodraeth y Cynulliad.

'Arloesol'

"Mae hyn i gyd wedi codi o'r frwydr i gadw Ysgol y Parc ar agor," meddai trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd, Osian Jones.

"Byddai cau'r ysgol yn ergyd enfawr i'r gymuned, ond cydnabyddwn fod y gymuned hon - ac eraill ym Mhenllyn - hefyd yn wynebu pob math o bwysau eraill hefyd.

"Y cwbl y mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn ei wneud yw datgan yr hyn y gellir ei wneud gan ddisgwyl i unigolion neu gwmnïau ymateb gyda cheisiadau cynllunio.

"Ein syniad arloesol ni yw annog y cymunedau i lunio eu cynlluniau adfywio eu hunain tu fewn i'r CDU ar sail eu hadnabyddiaeth o anghenion eu bro, ac yna pwyso ar yr awdurdodau i weithredu'r argymhellion."

Mae'r penderfyniad i gau Ysgol Y Parc, lle mae 18 o ddisgyblion, wedi cythruddo nifer o drigolion lleol.

Mae'n rhan o gynlluniau Cyngor Gwynedd i ad-drefnu addysg yn y sir.

Bydd ysgolion cynradd Beuno Sant a Bro Tegid ac Ysgol Uwchradd Y Berwyn yn cau er mwyn sefydlu Ysgol Gymuned Gydol Oes yn nhref Y Bala i'w agor yn y flwyddyn academaidd 2014-15.

Penderfyniad y cynghorwyr oedd ymgynghori ynghylch cau Ysgol y Parc erbyn mis Medi 2012 - a chynnig lle i blant y dalgylch yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn.



HEFYD
Ad-drefnu: Creu ysgol gydol oes
13 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific