British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Awst 2010, 10:13 GMT 11:13 UK
Abertawe yn adolygu gwariant

Theatr y Grand, Abertawe
Un o adeiladau amlyca'r ddinas ydi Theatr y Grand

Mae Cyngor Abertawe yn trafod posibiliadau o redeg Theatr y Grand a chanolfannau hamdden gymunedol yn y ddinas yn breifat.

Mae hynny yn un opsiwn i geisio arbed arian wrth iddyn nhw gynnal adolygiad gwariant.

Yn ôl y cyngor mae 'na sawl opsiwn o dan ystyriaeth.

Mae cyd-weithio gyda chwmnïau preifat a chynghorau eraill yn cael ei ystyried hefyd.

Y disgwyl yw y bydd unrhyw newidiadau yn eu lle erbyn 2012.

Dywedodd y cyngor nad oes 'na unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud eto.

Fe fyddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda staff, undebau ac unrhyw un arall fyddai'n cael eu heffeithio.

Dyddiau cynnar

Cafodd adroddiad ei gomisiynu gan swyddogion y cyngor.

Daw'r argymhellion o'r adroddiad a luniwyd gan Grahame Thomas, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am ddiwylliant, hamdden a thwristiaeth.

Mae Mr Thomas yn enwi canolfannau hamdden Penlan, Penyrheol, Treforys, Cefn Hengoed, Llandeilo Ferwallt, Pentrehafod a Phontarddulais, fel rhai ddylai gael eu rhedeg yn breifat.

"Dyddiau cynnar iawn ydi hi," meddai Mr Thomas am y cynlluniau.

"Mae adolygiad o'r fath wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o lefydd ar draws y DU ac felly ni fydd yn unigryw i Abertawe.

"Rydym wedi gweld llwyddiant cwmni Bay Lesiure Ltd yn rhedeg y ganolfan hamdden newydd, yr LC, a all fod yn fodel ar gyfer canolfannau eraill yn y ddinas."



HEFYD
Arbed arian: Cynghorau i gyd-weithio
23 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific