British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 22 Awst 2010, 10:06 GMT 11:06 UK
Beirniadu oedi cyn cynnal cwest merch 3 oed

Safle'r ddamwain
Cafodd ymchwiliad gan yr heddlu a'r gweithgor iechyd ei gynnal

Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd ydi'r diweddara i feirniadu'r oedi cyn cynnal cwest i farwolaeth merch dair oed gafodd ei lladd pan syrthiodd wal.

Cafodd Meg Burgess ei lladd ar Orffennaf 26 2008.

Roedd hi'n cerdded heibio wal yn Allt Melyd, Prestatyn, oedd yn agos i'w chartref, gyda'i mam pan syrthiodd rhan o'r wal.

Newydd gael ei gwblhau yr oedd y wal.

Fe geisiodd ei mam ei hachub o'r rwbel ond roedd hi wedi marw erbyn cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Oedi

Yn 2008 fe wnaeth canlyniadau archwiliad post mortem ddangos bod Meg wedi marw o anafiadau i'w brest a'i abdomen.

Ym mis Gorffennaf 2010 fe wnaeth crwner Gogledd Ddwyrain Cymru, John Hughes, ddweud ei fod o wedi cysylltu gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron am ei fod yn poeni am yr oedi a'r pryder mae hyn yn ei achosi i deulu Meg.

Teyrngedau wrth safle'r ddamwain
Teyrngedau wrth safle'r ddamwain

Does 'na ddim penderfyniad wedi ei wneud eto a ddylai rywun gael ei erlyn a does dim modd cynnal cwest tan fod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud.

Dywed Chris Ruane, yr AS, bod hi'n "gywilyddus" nad oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud.

Mae o hefyd wedi cysylltu gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn Efrog sy'n delio gyda'r achos ar ôl ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn 2008.

"Mae 'na ffeil o dystiolaeth ac rydym yn dal i ddisgwyl gwybodaeth gan yr ymchwilwyr," meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.

"Mae angen hwnnw cyn i ni ddod i ganlyniad.

"Gall ymchwiliad fel yma gymryd peth amser.

"Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn dod i'r canlyniad cywir."



HEFYD
Marwolaeth: Ymchwiliad yn parhau
28 Gorff 08 |  Newyddion
Wal: Merch 3 oed yn cael ei lladd
27 Gorff 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific