British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 22 Awst 2010, 11:48 GMT 12:48 UK
Cais i ddatblygu Canolfan Dylan Thomas

Dylan Thomas
Mae'r cais am weld y ganolfan yn cael ei ddatblygu

Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i addasu Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn ganolbwynt ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Cafodd y cais ei wneud ar y cyd gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Fe fydd yr arddangosfa bresennol o ddeunyddiau Dylan Thomas yn parhau ond fe fydd 'na adnewyddu sylweddol yn ôl y cynlluniau.

Mae disgwyl i gabinet Cyngor Abertawe drafod y cais yr wythnos nesaf.

Mae'r ganolfan yn y ddinas yn cynnwys arddangosfa ac yn cynnal digwyddiadau celfyddydol fel theatr, cerddoriaeth a llenyddiaeth.

Mae'n debyg bod Prifysgol Cymru eisiau gwneud mwy o ddefnydd o'r ganolfan wnaeth gostio £400,000 y llynedd i'w gynnal.

Fe fydd cynghorwyr yn clywed y bydd y cynllun yn "gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiadau economaidd a chelfyddydol y cyngor a'r ddinas".



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific