British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Awst 2010, 05:57 GMT 06:57 UK
Ceisio hwb o £4.5 miliwn i adfer Castell Aberteifi

Castell Aberteifi
Castell: Y nod yw creu canolfan treftadaeth, ysgol Gymraeg, caffi a llety

Mae ymgyrchwyr wrthi'n cwblhau'r manylion terfynol ar gyfer eu cais i adfer castell oedd yn bencadlys i'r Arglwydd Rhys.

Gobaith Ymddiriedolaeth Cadwgan yw sicrhau cymhorthdal o £4.5 miliwn oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn gweddnewid Castell Aberteifi.

Mae'r ymddiriedolaeth wedi bod yn ymgyrchu am bron i 10 mlynedd i adfer y castell sy'n dyddio nôl i'r 12fed Gantrif.

Y nod yw troi'r safle yn ganolfan treftadaeth.

Yno hefyd y bydd caffi, ystafelloedd llety a chyfleusterau addysg, gan gynnwys dosbarthiadau dysgu Cymraeg.

Cyllid

Bydd yn rhaid cwblhau'r cais am arian loteri erbyn diwedd mis Medi.

Un o'r amodau er mwyn sicrhau'r arian loteri yw bod yn rhaid codi swm cyfatebol o £4.5 miliwn.

Dywed Cadwgan eu bod yn gobeithio sicrhau hyn drwy godi arian yn lleol yn ogystal â cheisio cymorth gan gyrff fel cynghorau, Cadw, yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Cynulliad.

Yn 2008 fe dderbyniodd Ymddiriedolaeth Cadwgan £300,000 oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Castell Aberteifi
Bydd y sgaffaldiau yn diflannu pe bai'r Ymddiriedolaeth yn llwyddiannus

Cafodd yr arian ei ddefnyddio i gyflogi staff a thalu ffioedd.

Dywedodd Jann Tucker, Cadierydd Ymddiredolaeth Cadwgan, ei bod yn hyderus bydd y Loteri yn cefnogi'r cais.

"Hwn yw'r project treftadaeth mwyaf yng Nghymru ac rydym yn cystadlu gyda phrosiectau eraill o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon."

Gilbert de Clare gododd y castell gwreiddiol yn 1100.

Ond cafodd ei gipio oddi wrth y Normaniaid gan yr Arglwydd Rhys yn 1136.

Mae'n debyg fod yr Eisteddfod gyntaf wedi cael ei chynnal yn y castell yn 1176.

Roedd sawl brwydr rhwng y Cymry a'r Normaniaid ger y castell a chafodd Catherine o Aragon y castell yn waddol pan briododd Harri VIII yn 1509.



HEFYD
Ailagor Castell Aberteifi
30 Meh 04 |  Newyddion
Ymgyrchu i ddiogelu castell
14 Ebr 03 |  Newyddion
Achub castell hynafol
03 Ebr 03 |  Newyddion
Canfod wal wreiddiol castell
05 Medi 03 |  Newyddion
£107,000 i adfer castell
27 Gorff 04 |  Newyddion
£150,000 i adfer castell
11 Awst 04 |  Newyddion
Adfer castell ar gost o £8m
14 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific