British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Awst 2010, 06:10 GMT 07:10 UK
Dial ar y Llysiau Dial?

Llysiau'r Dial
Llysiau'r Dial yn tyfu ger Afon Taf yng Nghaerdydd

Mae 'na ddau gynllun yng Nghymru yn edrych yn fanwl ar ledaeniad chwyn Llysiau'r Dial, y Japanese Knotweed.

Prifysgol Morgannwg sy'n anelu at nodi lleoliad y planhigyn drwy ddefnyddio technoleg lloeren a defnyddio ffwng brodorol i'w ladd.

Defnyddio pryfyn o Japan, y llysleuen neu'r Aphalara itadori, sy'n bwyta'r planhigyn ydi gobaith yr ail brosiect yn Abertawe.

Mae'n costio miloedd bob blwyddyn i waredu'r planhigyn sy'n tyfu'n gyflym - hyd at bedwar metr o fewn pedwar mis ac yn difetha planhigion eraill o'u cylch.

Yn wael

Yn ogystal â bygwth bywyd gwyllt brodorol mae'n achosi problemau i adeiladau, strwythurau atal llifogydd a phalmentydd.

Mae'r broblem yn wael yn Abertawe.

Fe wnaeth y cyngor gyflogi swyddog yn yr adran amgylchedd i daclo'r broblem yn y ddinas.

Y gred yw bod 62,000 tunnell o'r planhigyn yn y ddinas, lleoliad delfrydol ar gyfer rhyddhau'r pryfyn i geisio rheoli'r tyfiant ond dyw union leoliadau'r profion ddim wedi cael eu rhyddhau gan y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Biowyddoniaeth Amaethyddol.

Dywedodd pennaeth ymchwil bioleg Prifysgol Morgannwg, Yr Athro Denis Murphy, ei fod yn datblygu technoleg lloeren i ganfod y planhigyn.

'Yn gobeithio'

"Fydd dim angen pobl yn cerdded milltiroedd yn chwilio amdano," meddai.

"Fe fyddai'n addas hefyd i weld y modd y mae'r planhigyn yn lledu.

"Rydym yn gobeithio y bydd modd defnyddio'r system."

Dywedodd hefyd eu bod yn edrych ar fioleg y planhigyn er mwyn gweld pam bod y planhigyn yn lledu mor hawdd.

"Mae'n ymddangos nad yw clefydau planhigion eraill yn effeithio arno," ychwanegodd.

"Ac mae'n effeithio ar ansawdd y pridd."



HEFYD
Chwyn estron: Rhyddhau pryfyn
25 Maw 10 |  Newyddion
Chwyn estron: Ateb o Japan?
13 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific