British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 18 Awst 2010, 16:54 GMT 17:54 UK
Boddi mewn afon: 'Potswyr ar fai'

Dyfrgi ac eog
Daethpwyd o hyd i'r dyfrgi a'r eog marw ddydd Mawrth

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud bod dyfrgi ac eog wedi eu dal mewn rhwyd anghyfreithlon ac wedi boddi yn Afon Teifi.

Digwyddodd hyn ger Castell Newydd Emlyn.

Mae swyddogion yr asiantaeth wedi bod yn chwilio'r ardal ac wedi apelio am dystion.

Fe allai'r troseddwyr gael dirwy o hyd at £5,000 neu dri mis yn y carchar.

Cafwyd hyd i'r dyfrgi a'r eog marw ddydd Mawrth.

Dywedodd Lyn Richards o'r mudiad: "Mae hyn yn dangos faint o ddifrod y mae'r rhwydi'n ei achosi.

"Rydyn ni'n ddig iawn pan mae hyn yn digwydd ... mae potsian yn effeithio'n niweidiol ar fywyd gwyllt a'r economi leol.

"Mae ein swyddogion ni'n targedu ardaloedd fel hyn ac rydyn ni'n benderfynol o ddal y troseddwyr."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 0800 80 70 60 yn ddienw.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific