Bu Mr Davies yn Ysbyty Treforys am naw mis
|
Mae cwmni o Sir Gaerfyrddin wedi cael dirwy o £8,000 ar ôl i weithiwr syrthio oddi ar do ffermdy. Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd fod Gwyndaf Davies, oedd yn 21 oed ar y pryd, wedi diodde anafiadau difrifol i'w ymennydd a'i asgwrn cefn wrth weithio ar adeilad ar fferm Penwerddu, Boncath, Sir Benfro, ym mis Ebrill 2009. Collodd Mr Davies ei olwg mewn un llygad ac mae'n rhannol ddall yn y llall. Cafodd cwmni Delme L James o Gynwyl Elfed ei erlyn gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch. Angen cymorth Fe wnaeth y ddamwain gyfyngu ar allu Mr Davies i siarad, ac ni all gerdded heb gymorth. Bu'n derbyn triniaeth am naw mis yn Ysbyty Treforys wedi'r ddamwain. Clywodd y llys y bydd o angen cymorth sylweddol am weddill ei oes. Dywed y Gweithgor nad oedd y cwmni wedi gwneud digon i sicrhau na fyddai gweithwyr yn syrthio oddi ar y to. Yn ogystal â dirwy o £8,000 bydd yn rhaid i'r cwmni dalu costau o £2,189. "Byddai wedi bod yn ddigon rhwydd i rwystro'r ddamwain," meddai Anne Marie Orrells swyddog gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch. "Ond mae Mr Davies a'i deulu yn dal i geisio ymdopi gyda'r hyn sydd wedi digwydd."
|