British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Awst 2010, 07:18 GMT 08:18 UK
£4m ar gyfer addysg gynnar

Cyfnod Sylfaen
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn ddull o ddysgu plant rhwng tair a saith oed

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd £4 miliwn ar gyfer hyfforddi'r rhai sy'n defnyddio'r Gymraeg ym maes addysg gynnar.

Dywedodd Leighton Andrews y byddai'r arian yn helpu rhoi'r Cyfnod Sylfaen ar waith.

"Mae'r arian yn ychwanegol at y £6 miliwn y mae'r llywodraeth eisoes wedi ei fuddsoddi mewn hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar ers 2008."

Sefydliad Cam wrth Gam fydd yn rhoi'r hyfforddiant ac yn gweithredu o dan ymbarél Mudiad Ysgolion Meithrin a Geiriau Bach, rhan o Goleg Prifysgol y Drindod.

'Yn allweddol'

Dywedodd y gweinidog: "Mae'r cymwysterau a'r sgiliau fydd yn cael eu hennill yn allweddol i fwrw ymlaen ag agenda Iaith Pawb a sicrhau bod staff cymwysedig sydd â sgiliau dwyieithog ar gael i ddiwallu anghenion y Cyfnod Sylfaen."

Mae'r Cyfnod Sylfaen yn ddull o ddysgu plant rhwng tair a saith oed ac wedi ei seilio ar yr egwyddor bod plant yn dysgu'n well trwy brofiadau ymarferol, uniongyrchol a thrwy chwarae a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau - yn lle gwneud tasgau mewn llyfrau.

Dywedodd Mr Andrews: "Mae'r galw am ymarferwyr cyfrwng Cymraeg yn codi wrth i'r Cyfnod Sylfaen gael ei gyflwyno ledled Cymru.

'Gwahaniaeth'

"Bydd y £4 miliwn ar gael dros y ddwy flynedd nesa yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddarparu'r hyfforddiant yr ydym yn gwybod sy'n angenrheidiol."

Yn 2008 roedd Pwyllgor Cyllid y cynulliad wedi dweud nad oedd proses ariannu addysg gynnar wedi ei chynllunio'n ddigon da.

Roedd gwendidau, meddai, yn y broses gyfathrebu rhwng cynghorau lleol a Llywodraeth y Cynulliad.

Oherwydd diffyg gwybodaeth, meddai'r adroddiad, roedd yn amhosibl asesu'r holl ofynion ar gyfer ariannu'r rhaglen.



HEFYD
Addysg gynnar: Poeni am ariannu
18 Gorff 08 |  Newyddion
Addysg gynnar: Blwyddyn arall
09 Meh 08 |  Newyddion
Addysg gynradd: Newid pwyslais?
22 Mai 08 |  Newyddion
Prifathrawon yn pwyso am arian
21 Mai 08 |  Newyddion
Addysg: Cyfadde prinder arian
29 Ebr 08 |  Newyddion
Addysg 'o dan y chwyddwydr'
28 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific