British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Awst 2010, 08:12 GMT 09:12 UK
Cyfle i drafod risg llifogydd

Llifogydd
Fe fydd y cyhoedd yn cael edrych ar gynlluniau risg llifogydd

Mae pobl leol yn y gogledd-ddwyrain yn cael gweld a thrafod cynlluniau risg llifogydd.

Gan fod ymgynghori am dri mis fe fydd y cyhoedd yn cael edrych ar gynlluniau a holi arbenigwyr am strategaeth yr ardal rhwng Abergele a Phrestatyn.

Fe fydd hyn yn digwydd yn Asda Bae Cinmel ddydd Sadwrn (12-8pm), Morrisons Rhyl ar Awst 21 (8-4pm) a Stad Sandy Cove ar Awst 28 (9-5pm).

Mae'r risg yn enwedig o uchel yng nghyffiniau Afon Clwyd.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd: "Y cynlluniau yw'r opsiwn gorau o ran delio â'r risg ar gyfer y ganrif nesa - ar sail barn pobl leol, dadansoddi technegol ac amgangyfri ynglŷn â lefel y môr."

Amddiffynfeydd

Yn y tymor byr, mae hyn yn golygu cadw'r amddiffynfeydd yn ystod y 10 mlynedd nesa. Yn y tymor hir, mae'n golygu amddiffynfeydd ar ddwy ochr Afon Clwyd rhwng Y Rhyl a Rhuddlan.

Fe fydd taflenni, byrddau hysbysebu a ffurflenni adborth ar gael yn Llyfrgell y Rhyl tan Awst 20.

Dywedodd Meic Davies, rheolwr risg llifogydd yr asiantaeth yn y gogledd: "Un o'n prif amcanion yw amddiffyn pobl a chymunedau rhag perygl llifogydd.

"Rhan o'r gwaith yw anelu at sicrhau bod amddiffynfeydd Afon Clwyd mor uchel ag yr oedden nhw.

"Ond nid oes modd gwneud hyn yn barhaol am eu bod yn suddo i mewn i'r mawn."

Rhif ffôn Rhybuddion Llifogydd yw 08459 881188.



HEFYD
Cryfhau amddiffynfeydd llifogydd
08 Awst 10 |  Newyddion
Gwaith ar gynllun atal llifogydd
21 Meh 10 |  Newyddion
Cynlluniau i atal llifogydd
02 Meh 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific