British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Awst 2010, 06:25 GMT 07:25 UK
Angen hebog i ddychryn gwylanod

Mike Espley o Coastal Hawks
Mae Mike Espley o Coastal Hawks hefyd yn defnyddio tylluan i gael gwared ar wylanod

Mae perchennog Tafarn y Bachgen Du yng Nghaernarfon wedi cael digon ar wylanod yn dwyn bwyd ei gwsmeriaid.

Dywed John Evans fod gwylanod yn broblem yn y dre yn gyffredinol, ond mae'n credu fod mwy ohonyn nhw o gwmpas y lle eleni.

Mae ganddo fyrddau y tu allan i'r dafarn er mwyn i gwsmeriaid fwyta yno yn yr haf, ond dywed Mr Evans bod yr adar yn dwyn bwyd yn barhaus ac yn boen.

Yn yr unig ateb, meddai, yw llogi hebog i ddod yno i ddychryn y gwylanod, ond mae Mr Evans yn credu y dylai'r cyngor dalu.

'Techneg effeithiol'

John Evans
Petai gen i broblem gyda llygod mawr fe allwn i alw'r cyngor i gael gwared â'r broblem, ond am mai gwylanod sy'n achosi trafferth does dim y gallai 'neud
John Evans

"Petai gen i broblem gyda llygod mawr," meddai, "fe allwn i alw'r cyngor i gael gwared â'r broblem.

"Ond am mai gwylanod sy'n achosi trafferth does dim y gallai 'neud."

Mae Mr Evans am i'r cyngor dalu i gael hebog i'r dre yn gyson - 2-3 gwaith yr wythnos - i godi ofn ar y gwylanod a'u gyrru i ffwrdd.

Mae'n dweud fod cynllun tebyg ar hyn o bryd yn y Rhyl ac yn Llandudno, a bod y dechneg yn effeithiol dros ben.

Mike Espley yw perchennog cwmni Coastal Hawks fydd yn dod â'r hebog i Gaernarfon.

Mae Mr Espley hefyd yn defnyddio tylluan ar adegau i ddychryn gwylanod.

Gwarchod

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae gwylanod yn broblem mewn sawl tre glan-môr ac yn arwain at drafferthion fel sŵn, nythu ar doeau ac yn y blaen.

"Rydym yn cynghori pobl i ofalu clirio gweddillion bwyd o fannau awyr agored cyn gynted â phosib, cael gwared â sbwriel bwytadwy mewn cynhwysydd addas a diogel a sicrhau nad ydynt yn gollwng bwyd ar lawr na bwydo'r gwylanod yn fwriadol.

"Tra bod gwylanod yn cael eu gweld fel pla gan lawer, mae'n bwysig cofio eu bod yn cael eu gwarchod yn y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific