Aled Scourfield
BBC Caerfyrddin
|
Dywed BT eu bod eisoes wedi buddsoddi mewn rhai ardaloedd gwledig fel Meidrim
Alla i siarad o brofiad personol am gysylltiad band eang araf. Yn ein cartref yng ngogledd Sir Benfro, mae'r cysylltiad ar hyn o bryd yn darparu cyflymder lawrlwytho o 0.15 megabit yr eiliad ac mae'r cysylltiad ei hun weithiau'n yn boenus o araf. Y broblem yw ein bod yn byw mewn pentref gwledig tua phedair milltir o'r gyfnewidfa ffôn agosaf, ac mae'r cysylltiad band eang yn cael ei gario ar wifren gopr. Wrth i chi bellhau o'r gyfnewidfa mae'r cyflymder band eang yn arafu. Ym mis Mai 2010 dywedodd OFCOM fod y cyflymder band eang trwy Brydain ar gyfartaledd yn 5.2 megabit yr eiliad. Mae'r bwlch digidol rhwng ardaloedd trefol a gwledig felly yn mynd yn waeth. 'Aflwyddiannus' Dros y ffin yn Sir Gâr mae'r ffermwr Geraint Puw o Feidrim wedi ceisio'n aflwyddiannus i gael cysylltiad band eang i'w fferm. Er ei fod yn byw filltir o ganol pentref Meidrim methodd â chael gwarant gan BT y byddai'n gallu derbyn gwasanaeth band eang. Dywed BT y byddan nhw wastad yn barod i dderbyn archeb am gysylltiad band eang os ydyn nhw'n credu fod hynny'n bosib, ac yn canslo'r cytundeb os na fedran nhw ddarparu'r cysylltiad.
Mae fferm Geraint Puw gwta filltir o ganol pentre Meidrim
|
Dywedodd Geraint: "Fe ddywedodd BT wrtha i os bydda i'n archebu'r gwasanaeth ganddyn nhw, fe fydd e'n llai na hanner megabit a dyw hynny'n dda i ddim i fi...mae'n llawer rhy araf. "Wnawn nhw ddim dweud wrtha i pa gyflymder fydda i'n ei gael mewn gwirionedd. Os ydw i'n mynd i'r siop i brynu potel o laeth, dwi'n gwbod be dwi'n prynu. Pam ddylai pobol mewn ardaloedd gwledig ddiodde' gwasanaeth eilradd?" 'Ateb problemau'
 |
Fe ddywedodd BT wrtha i os bydda i'n archebu'r gwasanaeth ganddyn nhw, fe fydd e'n llai na hanner megabit a dyw hynny'n dda i ddim i fi
|
Dywed BT eu bod yn buddsoddi llawer i geisio cael gwared â llefydd sy'n cael eu hadnabod fel "not-spots" mewn cymunedau fel Ystrad Feurig, Beulah a Llanfynydd. Ers 2006, mae 8,500 o aelwydydd yng Nghymru wedi elwa o fuddsoddiad ar y cyd rhwng BT a Llywodraeth y Cynulliad, ond i rai mae'r gwelliant yn boenus o araf tra bod rhai sy'n byw yng Nghaerdydd eisoes yn cael cynnig cyflymder o 40 megabit yr eiliad. Mae Llywodraeth Y Cynulliad yn gobeithio y bydd eu Cynllun Cefnogi Band Eang yn datrys rhai o'r problemau. Bydd unrhyw fusnes neu gartre yng Nghymru sydd naill ai ddim yn derbyn band eang o gwbl neu sy'n derbyn gwasanaeth arafach na 0.5 megabit yr eiliad yn cael gwneud cais am £1,000 o gymorth ariannol. Ymgyrchu Gall hyn dalu am dechnoleg band eang ar loeren, rhwydweithiau diwifr cymunedol neu gysylltiadau ffeibr-optig newydd. Mae Nerys Evans, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi ymgyrchu am ddarpariaeth band eang gwell mewn ardaloedd gwledig. "Mae'n glir fod nifer sylweddol o'r 'mannau gwan' yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro," meddai. "Mae'n eithriadol o bwysig fod pobl sydd ddim yn derbyn band eang yn cofrestru gyda'r cynllun yma - os na wnawn nhw, yna BT yn unig a ŵyr pwy sydd ddim yn derbyn cysylltiad band eang."
|