British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Awst 2010, 10:48 GMT 11:48 UK
Aamir: Heddlu yn apelio am gymorth

Mohammed Ali Ege
Mae'r heddluyn chwilio am Mohammed Ali Ege.

Mae heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth llanc ifanc gafodd ei drywanu o flaen ei rieni yn apelio am gymorth i ddod o hyd i berson sydd dan amheuaeth.

Maen nhw am siarad gyda Mohammed Ali Ege ynglŷn â marwolaeth Aamir Siddiqi, 17, gafodd ei drywanu gan ddynion oedd yn gwisgo mygydau wrth iddo agor drws ei gartre yn Y Rhâth, Caerdydd, ym mis Ebrill.

Mae Ege, 32 o ardal Riverside o'r ddinas, dan amheuaeth o gynllwynio i gyflawni llofruddiaeth.

Fe'i disgrifiwyd gan Heddlu'r De fel dyn tywyll ei groen o drâs y Dwyrain Canol, yn 5'10" o daldra, yn denau gyda gwallt tywyll byr iawn, llygaid brown ac acen Gymreig.

Rhybudd

Yn ogystal â chysylltiadau ar draws dinas Caerdydd, dywed yr heddlu fod ganddo gysylltiadau hefyd ym Mhontypridd a'r Barri.

Cafodd y cyhoedd rhybudd i beidio mynd ato, ac i gysylltu â'r heddlu yn syth os oes ganddyn nhw wybodaeth am ei leoliad.

Mewn llys y mis diwethaf, fe wnaeth dau ddyn wadu trywanu Aamir.

Plediodd Jason Richards, 35, a Ben Hope, 36, hefyd yn ddi-euog o geisio llofruddio tad Aamir, Iqbal, 68, a'i fam Parvenn, 55. Fe gafodd y ddau eu hanafu wrth fynd i geisio helpu'u mab.

Bydd Richards a Hope yn ymddangos gerbron Llys Y Goron Caerdydd eto ym mis Hydref.



HEFYD
Llofruddiaeth: Dau o flaen llys
26 Gorff 10 |  Newyddion
Angladd llanc 17 oed
07 Mai 10 |  Newyddion
Llofruddiaeth: Apl am wybodaeth
21 Ebr 10 |  Newyddion
Llofruddiaeth: Cyhoeddi enw llanc
12 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific