British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Awst 2010, 12:18 GMT 13:18 UK
Angen torri'r 'cylch diweithdra' i bobl ifanc

Canolfan Ddiweithdra
Cafodd mwy na 2,000 rhwng 16 a 24 oed eu holi ym Mhrydain

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi dweud bod pobl ifanc y mae eu rhieni'n ddi-waith yn llawer llai tebygol o gael gwaith.

Dywedodd adroddiad yr elusen fod un o bob pump o bobl ifanc yng Nghymru yn teimlo nad oedd gan eu rhieni ddigon o wybodaeth i'w helpu i gael gwaith.

Mae'r bobl ifanc wedi dweud wrth yr elusen eu bod yn disgwyl dilyn yr un llwybr â'u rhieni.

Cafodd mwy na 2,000 o bobl rhwng 16 a 24 oed ym Mhrydain eu holi ac roedd 196 ohonyn nhw o Gymru.

Roedd un o bob chwech (16%) yng Nghymru yn disgwyl bod yn dd-iwaith ac roedd mwy na chwarter (29%) yn dweud eu bod yn poeni am ddod o hyd i waith am nad oedd eu rhieni wedi ymdrechu.

'Cylch o ddiweithdra'

Os na allwn ni dorri'r patrwm o ieuenctid difreintiedig yn troi'n oedolion difreintiedig, fe fydd hyn yn bla ar y teuluoedd am genedlaethau i ddod
Rick Libbey

Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Y Tywysog yng Nghymru

Ond roedd mwy na thri chwarter y rhai gafodd eu holi'n credu mai dod o hyd i swydd dda oedd y ffordd orau o wella'u dyfodol.

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru, Rick Libbey: "Mae gormod o bobl ifanc yng Nghymru wedi eu dal mewn cylch o ddiweithdra a ddim yn gweld ffordd allan.

'Buddsoddi'

"Dim ond trwy rhoi sgiliau a hyder i'r bobl ifanc y gallwn ni eu helpu i dorri'n rhydd o'r cylch diweithdra.

"Os na allwn ni dorri'r patrwm o ieuenctid difreintiedig yn troi'n oedolion difreintiedig, fe fydd y cylch yn bla ar y teuluoedd am genedlaethau i ddod."

Dywedodd Llywodraeth Y Cynulliad: "Mae ein polisi newydd, Adnewyddu Economaidd, yn pwysleisio ein hymrywmiad i gefnogi pobl ifanc i lwyddo ac i fod yn barod am fyd gwaith.

"Rydym wedi buddsoddi arian Ewrop yn Rhaglen Fusnes Ymddiriedolaeth Y Tywysog yng Nghymru fydd yn helpu pobl ifanc ystyried hunangyflogaeth yn opsiwn real, gan gynnig y sgiliau a'r symbyliad sydd ei angen i greu cyfleon am swyddi newydd yn eu cymunedau."



HEFYD
Diweithdra: Dim newid
14 Gorff 10 |  Newyddion
Diweithdra yn hytrach na choleg?
06 Meh 10 |  Newyddion
Cymru: 10,000 yn fwy yn ddi-waith
21 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific