British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Awst 2010, 05:54 GMT 06:54 UK
Mam Kirsty 'ddim yn rhoi'r gorau i'r frwydr'

Kirsty Jones
Roedd Kirsty Jones yn teithio o amgylch y byd pan gafodd ei lladd

Mae mam Cymraes 23 oed gafodd ei llofruddio yng Ngwlad Thai ddeng mlynedd yn ôl wedi dweud na fydd yn rhoi'r gorau i'w brwydr i gael cyfiawnder.

Fe gafodd Kirsty Jones o Dredomen ger Aberhonddu ei threisio a'i thagu mewn hostel yn Chiang Mai ar Awst 10, 2000.

Mae ei mam, Sue Jones, wedi dweud: "Dwi'n gweld ei heisie hi bob dydd."

Fe gafodd sawl person eu harestio ond eu rhyddhau'n ddigyhuddiad.

Yn ddiweddar fe holodd Heddlu Dyfed-Powys bedwar o Brydain a dyn o Wlad Thai sy'n byw ym Mhrydain.

Mae'r pump, oedd yn Chiang Mai ar y pryd, wedi helpu taflu golau ar ychydig o fanylion yr achos ond dydyn nhw ddim wedi cael eu harestio.

Dogfen

Cyn holi'r pump roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn dogfen swyddogol oddi wrth awdurdodau Gwlad Thai.

Mae'r ddogfen yn golygu y bydd unrhyw dystiolaeth yn ddilys mewn llys.

Ar hyn o bryd mae'r heddlu yng Nghymru'n dadansoddi datganiadau cyn rhoi'r manylion i Adran Ymchwiliadau Arbennig Gwlad Thai sy wedi adolygu'r achos ers 2006.

Dywedodd y fam: "Mae derbyn y ddogfen fel bod modd holi'r pump yn gam mawr, yn sicr.

'Heb ei ddal'

"Ond dyw'r llofrudd ddim wedi cael ei ddal."

Roedd Kirsty wedi graddio ym Mhrifysgol Lerpwl a daethpwyd o hyd i'w chorff yn hostel Aree i'r gogledd o'r brifddinas, Bangkok.

Tri mis yn gynharach cychwynnodd Kirsty ar ei thaith o gwmpas y byd.

Roedd y teulu wedi beirniadu ymchwiliadau gwreiddiol yr heddlu.



HEFYD
Kirsty: Ofn AS am ymchwiliad
13 Awst 07 |  Newyddion
Achos teithwraig: Oedi ymchwiliad
16 Awst 06 |  Newyddion
Marwolaeth: 'Angen dysgu gwersi'
03 Ion 06 |  Newyddion
Marwolaeth: Ymchwiliad newydd
10 Awst 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific