British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Awst 2010, 08:40 GMT 09:40 UK
Arweinydd ynni newydd

Sasha Davies
Dywed Sasha Wynn Davies ei bod yn obeithiol am y cynllun

Dywed arweinydd prosiect newydd Ynys Ynni ei bod yn gobeithio creu dros 4,000 o swyddi newydd dros gyfnod o 15 mlynedd.

Bydd Sasha Davies yn gadael ei swydd bresennol fel Pennaeth Datblygu Economaidd Ynys Môn er mwyn arwain y cynllun.

Ynys Ynni yw'r gwaith sy'n cael ei wneud i geisio sefydlu Ynys Môn fel canolfan fydd yn arloesi mewn cynhyrchu trydan trwy nifer o wahanol ddulliau a chynnal y gwahanol ddiwydiannau sy'n mynd law yn llaw â hynny.

Dywedodd Sasha Wynn Davies ei bod yn obeithiol ac yn edrych ymlaen at yr her.

Bwriad Ynys Ynni yw datblygu prosiectau cynhyrchu ynni ar yr ynys er mwyn creu gwaith a dod ag arian i'r economi.

Y cyngor sir fydd yn cydlynu'r prosiect gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys rhai o'r sector preifat.

"Fe fyddwn ni'n gobeithio creu swyddi ar yr ynys ac ar draws gogledd orllewin Cymru," meddai Ms Davies.

Wylfa B

"Gobeithio y gallwn ni roi Môn ar y map fel canolfan rhagoriaeth i ynni.

"Byddwn yn cydweithio gyda'r Cynulliad, Prifysgol Bangor, Coleg Menai, Coleg Llandrillo a'r sector preifat i greu'r swyddi a denu buddsoddiad," eglurodd.

"Mae'n mynd i olygu lot o gydlynu a chydweithio."

Eglurodd mai prif ffocws, a'r pwysicaf, oedd y cynlluniau i godi Wylfa B.

"Mae Wylfa yn brosiect mor fawr, rhaid canolbwyntio ar hyn i greu potensial a chyfleoedd yn lleol.

"Fe fyddwn ni fel cyngor yn arwain ar hyn gyda'r Cynulliad a'r sector cyhoeddus ond rhaid disgwyl am y cyhoeddiad gan Lywodraeth San Steffan."

Dywedodd bod 'na gynlluniau eraill hefyd, fel cynlluniau biomas a chynlluniau ynni gwynt.



HEFYD
Cynllun yn 'creu swyddi o safon uchel'
18 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific