British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Awst 2010, 16:05 GMT 17:05 UK
142 miliwn i drin gwastraff

Lori Cyngor Gwynedd ar safle tirlenwi

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cefnogaeth ariannol i Brosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

Mae'r cynllun yn dod a phump o awdurdodau lleol y gogledd at ei gilydd er mwyn trin gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Bydd y buddsoddiad yn rhoi £142 miliwn er mwyn canfod atebion cynaliadwy i drin gwastraff.

Erbyn 2025 mae disgwyl y bydd 70% o wastraff y cartref yng ngogledd Cymru yn cael ei ailgylchu.

Bydd angen trinaieth o ryw fath ar 30% heblaw ei daflu ar domeni sbwriel.

'Newyddion gwych'

Nid yn unig fydd yr arian yn ein galluogi i brynu'r offer mwya pwrpasol at y dasg, ond fe fydd yn dod â gwaith a llewyrch i'r rhanbarth i gyd
Cynghorydd Hefin Thomas

Cyngor Sir Ynys Môn

Daeth pum awdurdod - Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych, Conwy a Sir Fflint - at ei gilydd i edrych am ateb i'r broblem, cyn cyflwyno syniad y Prosiect i Lywodraeth y Cynulliad.

Prif Weithredwr y prosiect, a Chyngor Sir Fflint, yw Colin Everett.

Offer pwrpasol

"Mae'r arian yma yn newyddion gwych i'r prosiect," meddai.

"Mae'n golygu fod gennym amser i ystyried a phrynu'r dechnoleg orau i ateb gofynion gogledd Cymru."

Dywedodd Y Cynghorydd Hefin Thomas o Gyngor Sir Ynys Môn: "Nid yn unig fydd yr arian yn ein galluogi i brynu'r offer mwya pwrpasol at y dasg, ond fe fydd yn dod â gwaith a llewyrch i'r rhanbarth."

Yn ôl y Cynghorydd Sharon Frobisher o Gyngor Sir Ddinbych: "Drwy weithio gyda'n gilydd, bydd Prosiect Trîn Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn cynnig ateb economaidd ac effeithiol i drin gwastraff fel hyn, a bydd hefyd yn cyrraedd targedau a helpu i atal newid hinsawdd."



HEFYD
Cynllun i waredu gwastraff
02 Maw 10 |  Gogledd ddwyrain

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific