British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Awst 2010, 06:52 GMT 07:52 UK
Ymchwiliad fferm wynt ar fin dod i ben

fferm wynt
Mae disgwyl penderfyniad yn ddiweddarach eleni

Mae ymchwiliad cyhoeddus i gynllun codi fferm wynt ar dir comin yn ardal Abertawe ar fin dod i ben.

Fferm wynt Mynydd y Gwair ger Felindre fydd yr un dalaf yng Nghymru os bydd Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn caniatáu apêl RWE nPower Renewables i godi 19 o dyrbeini hyd at 127 metr o uchder.

Yn y cyfamser, mae BBC Cymru wedi casglu bod maint tyrbeini gwynt wedi mwy na dyblu ers i'r rhai cyntaf gael eu codi yng Nghymru yn 1992.

Mae disgwyl y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi penderfyniad ynghylch Mynydd y Gwair yn ddiweddarach eleni.

Uwch na'r canllawiau

Roedd Cyngor Abertawe wedi gwrthod y cynllun ym mis Ionawr oherwydd bod y tyrbeini 27 metr yn uwch na'r canllawiau am yr ardal.

Pan godwyd fferm wynt gyntaf Cymru yn Rhyd-y-groes ar Ynys Môn yn 1992 roedd y tyrbeini yn 46 metr o uchder.

Ar gyfartaledd mae tyrbeini sydd wedi'u codi rhwng 2007 a 2010 yn 95 metr.

Byddai tyrbeini Mynydd y Gwair 20 metr yn dalach nag adeilad mwyaf Cymru, sef Tŵr Cei Meridian yn Abertawe.

Cafodd Mynydd y Gwair ei ddewis fel lleoliad i'r fferm wynt oherwydd gwyntoedd cryfion a chyson yr ardal.

'Annerbyniol'

Wedi gwrando ar dystiolaeth pawb rydym yn parhau o'r farn y bydd y fferm wynt yn ddatblygiad o safon uchel yn y man iawn
RWE nPower Renewables

Dywedodd pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe y byddai effaith weledol y cynllun yn annerbyniol ac nad oedd y llwybr a ddewiswyd ar gyfer traffig adeiladu'r safle yn dderbyniol.

Ond fe gymerodd y cyngor dros flwyddyn i gyrraedd y penderfyniad ac ym mis Hydref 2009 fe ddechreuodd RWE y broses apêl ar sail honiad fod y penderfyniad yn hwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran RWE mai Mynydd y Gwair oedd y safle cywir ar gyfer y datblygiad.

"Rydym yn teimlo fod pawb wedi cael cyfle i leisio barn.

"Ac rydym yn falch fod sesiwn gyda'r nos wedi'i threfnu er mwyn i'r arolygwr gael cyfle i glywed barn trigolion lleol ...

"Wedi gwrando ar dystiolaeth pawb, rydym yn parhau o'r farn y bydd y fferm wynt yn ddatblygiad o safon uchel yn y man iawn, a'i bod yn gydnaws â'r amgylchedd er mwyn dod ag ynni glân a buddion newid hinsawdd i'r ardal."

'Mwy agored'

Dywedodd Geoffrey Sinclair, llefarydd Save Our Common Mountain Environment (SOCME), y byddai'r tyrbeini yn fwy na rhai gafodd ganiatâd cynllunio ar Fynydd y Betws gerllaw.

"Byddai hyn yn ychwanegu nifer fawr o dyrbeini llawer mwy mewn ardal sy'n llawer mwy agored ac sy'n cael ei ddefnyddio'n amlach gan bobl.

"Fe fydd modd eu gweld dros ardal anferth, ardal sy'n bwysig o ran hamddena i bobl Abertawe, Pontarddulais a Phontardawe.

"Mae'n dir comin ac mae perchnogion anifeiliaid sy'n pori yno yn teimlo y byddai symud yr anifeiliaid yn cael effaith ddrwg arnyn nhw."



HEFYD
Protestio'n erbyn fferm wynt
28 Awst 04 |  Newyddion
Datgelu manylion cynllun fferm wynt
13 Mai 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific