British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Awst 2010, 14:56 GMT 15:56 UK
Medal wyddonol i fathemategwr

Gareth Roberts a Prydwen Elfed Owens
Prydwen Elfed-Owens gyflwynnodd y fedal i Gareth Ff Roberts

Yr Athro Gareth Ff Roberts sydd wedi derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg 2010 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.

Mae wedi bod yn amlwg yn hybu cyhoeddi deunyddiau Cymraeg mewn mathemateg.

Dywedodd bod derbyn yr anrhydedd yn cydnabod y maes yn ehangach na dim ond i'r person.

"Mae'n rhan o gydnabyddiaeth yr Eisteddfod i faes Gwyddoniaeth yn gyffredinol ac mae hwnnw wedi bod yn ddatblygiad braf iawn, sef bod diffiniad yr Eisteddfod o'r pethe wedi ehangu o faes traddodiadol i gwmpasu'r gwyddorau ac yn fy achos i, mathemateg," meddai Mr Roberts.

Cyfannu

"Yn draddodiadol, mae llenyddiaeth, drama a barddoniaeth wedi bod ar un ochr a mathemateg a gwyddoniaeth ar yr ochr arall, y ddau ddiwylliant.

"Yr hyn mae'r Eisteddfod yn ei wneud ydi, a mawr diolch am hynny, cyfannu'r ddau beth.

"Maen nhw'n gweld pethau megis gwyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg yn rhan o'r pethe traddodiadol.

"Nid yn unig cydnabod y person, ond pwysigrwydd y maes, bod mathemateg wedi datblygu."

Pontio

Dywedodd bod y pwnc o ran dysgu drwy gyfrwng Cymraeg yn ffenomenon cymharol newydd.

"Erbyn hyn, mae 'na ddeunyddiau di-ri ar gael yn Gymraeg a phlant ysgol lawer iawn mwy positif tuag at y pwnc," meddai.

"Heddiw, mae'r ymateb yn frwdfrydig gyda phlant yn dweud eu bod y 'mynd i wers mathemateg' yn hytrach na dweud eu bod yn mynd i 'neud syms'.

"Mae 'na wahaniaeth ymagwedd yn y ddau sylw."

Mae Mr Roberts ar hyn o bryd yn cyd-weithio gyda Gwasg Gomer ar ddarparu llyfr sy'n pontio'r ddau ddiwylliant.




Tudur Hallam Cadair Tudur
Tudur Hallam enillodd Gadair y Brifwyl

GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific